Ateb y Galw: Siân Thomas

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy atgof cyntaf yw chware peli eira gyda Dad pan o'n i tua 3 oed ac yn byw yn y Rhondda. Aeth un trwy ffenest y gegin gan adael y lle yn wydr i gyd - o'dd Mam ddim yn hapus!!!!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Donny Osmond oedd yr heart throb - roedd fy stafell wely yn llawn posteri ohono fe.

Disgrifiad o'r llun, Donny Osmond, gyda'i wreiddiau ym Merthyr ac yng nghalon Siân Thomas

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ffilmio mewn ogof yn Ystradfellte, wrth lithro lawr afon o fwd, mi gydiodd fy nhrowser mewn craig ac mi lanies yn y gwaelod yn fy nicyrs gyda fy nhrowser wrth fy nhraed.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi'n crio am bopeth - ffilm soppy, unrhywbeth i neud ag anifeiliaid. Dwi'n real wimp.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Siŵr bydde fy ffrindie yn dweud bo' gen i lwythi! Dwi byth yn glanhau'r car, dwi'n flêr iawn gyda'r ardd a dwi byth yn rhoi fy sgide i gadw.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Efrog Newydd - mae mor gyffrous ac yn wahanol bob tro yr ewch chi yno.

Disgrifiad o'r llun, Y ddinas nad yw'n cysgu - y cyffro yno yn amlwg at ddant Siân

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi wedi cael lot o nosweithie gret sy'n aros yn y cof - ces i'r fraint o fynd i seremoni'r Oscars ar ran Heno flynyddoedd yn ôl - fantastic! Ces i dreulio noson yn y Sahara mewn pabell mewn oasis.

Gweles y wawr yn torri yn anialwch y Negev yn Israel, a nifer fawr o nosweithie grêt gyda chriw o ffrindie. Alla i ddim dewis un yn arbennig - dwi wedi joio nhw i gyd mewn ffyrdd gwahanol.

Disgrifiad o'r llun, Carped coch eiconig yr Oscars lle roedd Siân yn cymysgu gyda'r enwogion

Oes gen ti datŵ?

Nagoes! Casau nhw.

Beth yw dy hoff lyfr?

Llyfr anferthol, llawn llunie gwych sy'n cofnodi darganfod bedd Tutankhamun. Ma 'na lunie o bron popeth oedd yn y bedd ynddo fe - ma' fe'n ffantastic ac yn un o fy nhrysorau.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Jîns - dwi'n byw ynddyn nhw.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Gone Girl' - ych a fi ond yn wych.

Disgrifiad o'r llun, Ben Affleck yn y ffilm dywyll 'Gone Girl'

Dy hoff albwm?

'Sgen i ddim ffefryn - mae'n dibynnu ar yr hwyl.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Prif gwrs; cinio dydd Sul Mam - y gravy gore'n y byd.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Text yn iawn pan ar frys, ond well gen i ffonio am sgwrs - dwi'n lico clywed llais.

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Bydden i wedi lico bod yn Howard Carter y diwrnod ffindodd e fedd Tutankhamun.

Disgrifiad o'r llun, Mae Siân yn ymddiddori mewn Eifftoleg; a rhamant darganfyddiad Howard Carter

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Garry Owen