Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Mari Grug

  • Cyhoeddwyd
Mari Grug

Yr wythnos yma y gyflwynwraig Mari Grug sy'n Ateb y Galw, wedi iddi gael ei .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mynd i weld fy chwaer Elin yn perfformio yng ngwasanaeth Nadolig y Capel a chael fy nal nôl gan fy nhad am nad oeddwn yn cael ymuno gyda hi yn y pulpud.

Yn diwedd dwi'n credu fe wnes i lwyddo ac mi roedd 'na angel ychwanegol yn stori'r geni.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Roedd dau ddyn yn rhannu stafell wely gyda fi a fy chwaer Lisa. Sean Maguire oedd yn chwarae rhan Tegs yn y gyfres 'Grange Hill' a Dieter Brummer odd yn chwarae rhan Shane yn 'Â鶹ԼÅÄ and Away'. Posteri ym mhobman.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dieter Brummer yn codi'r tymheredd yn stafell wely Mari Grug!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gofyn i weinyddes mewn bwyty pryd odd hi'n disgwyl babi. Mi oedd hi wedi geni ers 10 wythnos!!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dydd Sadwrn diwethaf, o'n i ym mhriodas ffrindiau.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Chwarae gyda fy ngwallt bob munud o'r dydd. Pan o'n i'n cyflwyno rhaglen fyw unwaith rhai eiliadau cyn i fi fynd yn fyw, ges i'r cyfarwyddwr yn gweiddi yn fy nglust "stopia chwarae gyda dy blydi gwallt". Dwi dal i wneud, credu bod e rhyw fath o nervous twitch.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Efrog Newydd

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Sesiwn Fawr Dolgellau 2005

Disgrifiad o’r llun,

Y Super Furry Animals oedd yn serennu yn Nolgellau ar noson arbennig Mari - Sesiwn Fawr, 2005

Oes gen ti datŵ?

Nagoes. Erioed wedi apelio ac fe wnes i weld ymateb fy rhieni pan ddaeth fy chwaer adre o'r brifysgol gydag un mawr ar waelod ei chefn.

Beth yw dy hoff lyfr?

Wrth fy modd gyda llyfrau Jodie Picoult - 'Songs of the Humpback Whale' a 'My Sister's Keeper'. Ma' 'Philomena' gan Martin Sixsmith wedi gadael tipyn o argraff arna i a nes i wir fwynhau 'Blasu' gan Manon Steffan Ros.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy siaced ledr ddu ac anaml iawn fydda i heb sgarff - casáu cael gwddf oer.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Theory of Everything' - gwyyyyyych!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Mi fydd hi'n teimlo'n oer. Cofiwch wisgo sgarff!"

Dy hoff albwm?

'A kind of Magic' gan Queen.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Cwrs cyntaf bob tro. Weithiau yn archebu 2 gwrs cyntaf gan bod well dewisiadau na'r prif gwrs.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Dyddiau 'ma gydag amser i glebran yn brin, ma' txt yn handi iawn ond pan fo amser yn caniatáu sdim byd yn well na gwd clonc ar y ffôn!!

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Steffan Ifan James, fy mab 16 mis oed. Byddai'n ddiddorol iawn i weld beth yn union sy'n mynd ymlaen yn ei fyd bach e'.

Ffynhonnell y llun, GGJ PHOTOGRAPHY
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Mari wrth ei bodd yn gwybod beth mae Steffan Ifan yn ei feddwl o'r swigod

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesa'?

Sian Thomas