Adroddiad: 'Angen diwygio hyfforddiant athrawon'

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy'n edrych ar y ffordd y mae athrawon yn cael eu hyfforddi.

Daw hyn wedi i Graham Donaldson gyhoeddi ei weledigaeth i weddnewid y cwricwlwm yng Nghymru yn ddiweddar.

Yr Athro John Furlong sy'n gyfrifol am adroddiad 'Addysgu Athrawon Yfory'. Mae'n mynnu fod y gwaith ymchwil yn "pwysleisio'r angen pendant i ddiwygio hyfforddiant athrawon yng Nghymru".

Fe gafodd yr Athro Furlong ei benodi gan y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, y llynedd fel Cynghorydd Cymru ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon.

Fel rhan o'i waith, fe ofynnwyd i'r Athro Furlong edrych yn ofalus ar y modd y caiff hyfforddiant i athrawon ei drefnu yng Nghymru ar hyn o bryd a'r dystiolaeth sydd ar gael o blaid newid.

Yn ogystal, fe ystyriodd y mesurau sydd eu hangen i gyflawni system Gymreig sydd o'r radd flaenaf ar gyfer Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon sydd gystal â system unrhyw wlad arall yn y byd.

Yn ei adroddiad mae'r Athro Furlong yn disgrifio cyfres o opsiynau ar gyfer newid ynghyd â naw o argymhellion allweddol.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • codi safonau ar gyfer athrawon newydd,
  • gwella capasiti ymchwil,
  • sefydlu proses achredu ddiwygiedig ar gyfer darparwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon,
  • sefydlu 'Bwrdd Achredu Addysg Athrawon' o fewn Cyngor y Gweithlu Addysg a diwygio Canllawiau Estyn fel bod arolygiadau ysgolion yn cydnabod cyfraniad ysgolion at Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.

Mae'r Athro Furlong hefyd yn argymell graddau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon dros bedair blynedd lle y byddai myfyrwyr yn treulio 50% o'u hamser mewn adrannau ysgolion sy'n arbenigo yn eu prif bwnc.

'Ystyried yr opsiynau'

Wrth groesawu'n adroddiad, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis:

"Mae'r achos dros newid yn gryf iawn. Os ydym yn awyddus i godi safonau mae'n amlwg fod yn rhaid i ni ddatblygu ymarferwyr myfyriol sydd newydd gymhwyso ac sydd â'r cymwysterau, y sgiliau a'r cydnerthedd i gefnogi'r newidiadau i'r cwricwlwm a gaiff eu hargymell gan yr Athro Donaldson yn ei adroddiad diweddar.

"Nid wyf yn anghytuno, mewn egwyddor, ag unrhyw beth y mae'r Athro Furlong yn ei nodi yn ei adroddiad.

"Mae'n rhaid i ni fynd ati yn awr i ystyried yr opsiynau ar gyfer diwygio a'r dulliau gweithredu mewn rhagor o fanylder. Bydd gofyn sicrhau bod y sector hyfforddi athrawon yn chwarae rhan lawn yn y broses hon.

"Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod y sector yn parhau'n hyfyw wrth i ni drosglwyddo'n ddidrafferth i fodel newydd o hyfforddi athrawon."

'Cryfderau a gwendidau'

Dywedodd yr Athro Furlong:

"Wrth lunio'r adroddiad hwn rwyf wedi casglu llawer iawn o dystiolaeth am gryfderau a gwendidau presennol hyfforddiant athrawon yng Nghymru.

"Rwyf wedi siarad â chydweithwyr ar lefel uwch o fewn canolfannau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru, Consortia Rhanbarthol, ysgolion ac â'r holl gyrff cyhoeddus sy'n ymwneud â'r ddarpariaeth bresennol. Rwyf hefyd wedi siarad â'r Athro Graham Donaldson am oblygiadau ei adolygiad diweddar o'r cwricwlwm.

"Os bydd Llywodraeth Cymru, asiantaethau cenedlaethol, ysgolion ac addysg uwch oll yn cydweithio ar hyn bydd modd i ni gyflawni addysg a hyfforddiant athrawon y gallwn oll ymfalchïo ynddo - ac a fydd yn cyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ein plant a phobl ifanc."