Â鶹ԼÅÄ

Cân i Gymru: Y Lleuad a'r Sêr ar y brig

  • Cyhoeddwyd
elin angharad

Y Lleuad a'r Sêr gan Elin Angharad ac Arfon Wyn sydd wedi ennill tlws Cân i Gymru 2015 a'r wobr o £3,500.

Fe gafodd y gystadleuaeth ei chynnal nos Sadwrn ym Mhafiliwn Môn, Gwalchmai.

Cantores ifanc o bentref Gaerwen, Ynys Môn yw Elin Angharad.

Wedi blwyddyn yn astudio theatr cerdd yn Efrog Newydd, mae hi bellach wedi dychwelyd i Gymru ac yn gobeithio astudio mewn coleg cerdd a drama'r flwyddyn nesaf.

"Caneuon o sioeau cerdd sy'n llonni fy mryd i fel arfer, ond mae'n fraint cael canu cân pop fel Y Lleuad a'r Sêr ac roedd cael cyfansoddi'r gân hefo Arfon Wyn o'r Moniars yn brofiad arbennig!" meddai Elin.

Yn cystadlu yn y rownd derfynol roedd wyth o ganeuon amrywiol:

  • O'r Brwnt a'r Baw gan Darren Bolger;

  • Cariad Pur gan Catrin Hopkins a Pheena;

  • Y Llais gan Aled Evans;

  • Tri Mis Yn Ôl gan Cai Morgan a Lewys Mann;

  • Pluen Wen gan Neil Maliphant;

  • Oes yn Ôl gan Sera Owen;

  • Tynna Fi I'r Glaw gan Team Panda;

  • Y Lleuad a'r Sêr gan Elin Angharad ac Arfon Wyn.

Wedi i'r beirniaid ddewis y pedair cân i berfformio eto yn y rownd uwchderfynol, fe roddwyd y dasg o ddewis enillydd yn nwylo'r gwylwyr drwy'r bleidlais ffôn.

Roedd y bleidlais honno yn cyfri am hanner y marciau, gyda'r hanner arall yn cael ei phenderfynu gan aelodau'r rheithgor gwadd.

Ar y panel eleni roedd Aled Haydn Jones, y gantores amryddawn Caryl Parry Jones, y cyflwynydd radio Lisa Gwilym a'r hyfforddwr llais Euros Rhys Evans.