Â鶹ԼÅÄ

"Deffra! Ti 'di ennill Oscar!"

  • Cyhoeddwyd
Annie Atkins yn ei stiwdio yn Nulyn
Disgrifiad o’r llun,

Annie Atkins yn ei stiwdio yn Nulyn

I'r rhan fwyaf ohonon ni, byddai'r siaws o ennill Oscar yn ddigwyddiad bythgofiadwy ac yn un fydden ni'n ei gofio am byth. Ond gwnaeth Annie Atkins, prif ddylunydd graffeg y ffilm 'Grand Budapest Hotel' gysgu trwy ei moment fawr.

"O'n i wedi dod draw ar y cwch i Gymru i fod gyda fy rhieni. Gawson ni steak a chips a champagne ac fe gafodd y ci asgwrn o siop y cigydd. Alla'i ddim dychmygu ffordd well o dreulio'r noson.

"Wedyn gwnaethon ni setlo lawr i wylio'r seremoni ar y teledu, ond oedd rhaid i mi fynd i'r gwely tua 2:30. Deffrodd dad fi am 6:00 y bore wedyn yn ei byjamas i ddweud ein bod ni wedi ennill!"

Enillodd y ffilm bedair Oscar i gyd, ac Annie oedd yn arwain y tîm oedd yn gyfrifol am y broses o ddylunio a chreu edrychiad y ffilm.

Disgrifiad o’r llun,

Ed Norton, gyda phropiau Annie a'i thîm o'i gwmpas

Beth mae'r Oscar yn ei olygu i chi fel dylunydd?

"Mae dylunio graffeg ar gyfer ffilmiau weithiau yn teimlo fel yr ochr gyfrinachol i ddylunio, felly rydw i wrth fy modd nawr fod ffilm brydferth Wes Anderson, 'Grand Budapest Hotel' wedi bwrw golau ar ddylunio ar gyfer ffilmiau."

Beth yn union mae Dylunydd Graffeg yn ei wneud ar ffilm?

"Fy swydd i yw i greu yr holl bropiau graffeg neu ddarnau set graffeg sy'n ymddangos ar set y ffilm. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o basport ffug i'r actorion neu arwyddion gwesty mawr. Yn wir, unrhyw beth sydd yn y ffilm sydd â llythrennau, lluniau neu batrymau arno.

"Mae'n rhaid i chi wneud propiau graffeg sydd yn teimlo'n real yn nwylo'r actorion, hyd yn oed os na fyddan nhw'n cael eu gweld yn agos gan gynulleidfa'r sinema. Mewn bywyd go-iawn, dydi setiau ffilmiau ddim yn edrych fel mae nhw'n ymddangos ar y sgrîn - mae nhw'n llawn goleuadau a cheblau a phobl yn sefyll o amgylch y lle mewn siacedi North Face.

"Felly mae unrhyw beth allwch chi i ei wneud er mwyn gwneud profiad actor neu gyfarwyddwr yn un mwy real yn help i greu ffilm dda."

Faint o dîm oeddech chi'n ei arwain ar y ffilm?

"O fewn yr adran gelf mae timau o bobl sy'n arbenigo mewn gwahanol fathau o ddylunio. Y gwneuthurwyr modelau, y paentwyr, yr artistiaid golygfeydd, y drafftsmyn, y plastrwyr... rydyn ni fel byddin. Yn ystod cyfnod ffilmio 'Grand Budapest Hotel', roedden ni'n byw yng nghanol yr eira mewn tref fechan ar ffin Gwlad Pwyl a'r Almaen. Roedd o fel petai ni'n gymeriadau yn un o ffilmiau Wes Anderson."

Sut mae'r ffilm yn cymharu gyda'ch gwaith arall chi?

"Mae'r ffilm yn agos iawn at fy nghalon, ac nid oes diwrnod yn mynd heibio pan nad ydw i'n diolch i Wes a dylunydd y cynhyrchiad, Adam Stockhausen, am gael bod yn rhan o'r prosiect.

"Rydw i wedi gwirioni ein bod ni wedi ennill y wobr am y Dylunio Gorau mewn Cynhyrchiad yn yr Oscars."

Ffynhonnell y llun, Martin Scali
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o'r ffilm 'Grand Budapest Hotel'