Â鶹ԼÅÄ

Ceisio denu merched i'r Gwasanaeth Tân yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Diffoddwr TanFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae ymgyrch wedi ei lansio i geisio denu mwy o ferched i ymuno a'r Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.

125 o ferched sydd yn gweithio yn y gwasanaeth yng Nghymru yn ôl ffigyrau newydd.

Yn ne Cymru, dim ond tua 2% o weithlu'r gwasanaeth sydd yn ferched, 20 allan o 838 o swyddogion.

Mae'r gwasanaeth yn awgrymu bod y swydd yn cael ei weld fel un i ddynion yn draddodiadol.

Merched yn y Gwasanaeth Tân ac Achub

  • Gogledd Cymru: 37 o ferched allan o 668 o ddiffoddwyr = 5.5%;

  • Canolbarth a'r Gorllewin: 68 o ferched ond dim ffigwr cyfanswm ar gael;

  • De Cymru: 20 o ferched allan o 838 o ddiffoddwyr = 2.4%;

Disgrifiad o’r llun,

Mae Suzanne Parry yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac fel hyfforddwr ffitrwydd

Un sy'n gweithio gyda'r gwasanaeth yn ne Cymru yw Suzanne Parry, dywedodd: "Dwi'n meddwl bod merched yn teimlo ei bod yn swydd i ddyn, ond dydi o ddim.

"Rydyn ni i gyd o faint gwahanol, ac mae pawb yn gweithio fel tîm yn y criw. Dwi'n meddwl os ydych chi wir eisiau gwneud hyn, dylech chi drio."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dweud mai bechgyn yn unig sy'n dangos diddordeb mewn gyrfa fel diffoddwyr tân ar ymweliadau i ysgolion.

Y bwriad yw newid y syniad yna a cheisio hyrwyddo'r maes fel gyrfa i ferched, a rhywbeth sydd yn hyblyg ac yn rhoi cyfle i ddysgu sgiliau newydd.

Er bod ffitrwydd corfforol yn rhan bwysig o'r swydd, erbyn hyn mae diffoddwyr tân yn defnyddio rhan fawr o'u hamser yn y gymuned yn hyrwyddo diogelwch.