Â鶹ԼÅÄ

Gohirio penderfyniad ar gynllun tai

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor Sir GaerfyrddinFfynhonnell y llun, Jaggery

Mae cynghorwyr Caerfyrddin wedi gohirio gwneud penderfyniad ar gais dadleuol i godi 250 o dai yno.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryder am effaith y datblygiad ar lif traffig.

Mae cwmni datblygu o Suffolk wedi cyflwyno cais amlinellol i Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer y datblygiad.

Mae Cyngor Tref Caerfyrddin wedi cyflwyno nifer o wrthwynebiadau i'r cais - yn eu plith amheuon ynglŷn â phwy fydd yn talu am ffordd gyswllt newydd i'r datblygiad o'r A40.

Mae'r heol newydd i fod i gysylltu'r ffordd ddeuol a nifer o ddatblygiadau tai yng ngorllewin tref Caerfyrddin, ynghyd â phencadlys S4C.

Fe fydd y ffordd newydd yn costio dros £5 miliwn i'w hadeiladu, ond nid oes manylion llawn eto ynglŷn â sut y bydd gwaith yn cael ei ariannu.

1000 o dai newydd

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths sy'n aelod o Gyngor Tref Caerfyrddin wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw: "Mae'r datblygiad yma ar ben heol y Coleg ac i ni'n gwybod am yr holl drafnidiaeth - mae hi'n medru bod yn anobeithiol i deithio o gwmpas yr ardal.

"Y gofid mawr os oes adeiladu 250 yn rhagor o dai - a'r rheini yn dod allan i Heol y Coleg - mae yna ofid mawr am drafnidiaeth."

Mae ardal gorllewin Caerfyrddin wedi ei chlustnodi ar gyfer dros 1000 o dai newydd yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Yn ôl asesiad cynllunio'r Cyngor Sir, fe fydd na ddim mwy na 100 o dai yn cael eu codi tan 2018, ac fe fydd ffyrdd presennol Caerfyrddin yn medru ymdopi gyda'r traffig ychwanegol. Mae disgwyl i'r datblygwyr - Carmarthen Promotions Limited - wneud cyfraniad ariannol i'r ffordd gyswllt newydd.