Ateb y Galw: Mari Lovgreen
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma y cyflwynydd Mari Lovgreen sy'n Ateb y Galw, wedi iddi gael .
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cael fy mhen yn sownd mewn stôl fechan.
Pwy oeddetti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Leonardo DiCaprio.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cyfweld Leonardo DiCaprio ar y carped coch, rhoi llythyr 14 tudalen iddo ro'n i 'di sgwennu pan yn 13 oed, a wedyn crio.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dwi newydd gael babi naw wythnos yn ôl, felly dwi'n crio reit aml ar hyn o bryd!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes, ond mae nhw'n gwbl gyfrinachol.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Barcelona.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Waw, am gwestiwn! Parti dyweddio fy ffrindiau agos Hyw ac Elsbeth yn uchel iawn ar y rhestr - tywydd braf, cwmni da, bbq, karaoke, gig yn Clwb Ifor ac ymlaen i dafarn neu ddwy i orffen petha'. Dwi'n hawdd fy mhlesio 'chi.
Oes genti datŵ?
Oes ar waelod fy nghefn. Rhyw sgwigl du ydi o - trio bod yn rebal pan o'n i'n 16 oed.
Beth yw dy hoff lyfr?
Cysgod y Cryman. Dyna pam nes i briodi ffarmwr o'r enw Edward Vaughan a symud i fyw i Sir Drefaldwyn.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Ar y funud - leggins. Gwaetha'r modd.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?
'Avatar'. Bys ar y pyls fama.
Dy hoff albwm?
Casau'r cwestiwn yma achos dwi'n caru cerddoriaeth. Dwy albwm ddylanwadodd fwya' arna fi yn ifanc oedd Lauren Hill - 'Miseducation of...' a Big Leaves - 'Pwy sy'n Galw?'.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Cwrs cyntaf. Fydda i'n ordro ail gwrs cyntaf yn lle pwdin weithia'. 'Di hynna'n ddrwg?
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Dibynnu ar y person dydi? Dim byd gwell na sgwrs iawn efo'r person iawn; ond ma tecstio'n gallu bod yn handi... Pam does 'na'm opsiwn wyneb yn wyneb? Wfft i dechnoleg (medda'r hogan sy'n addicted i'w iPhone).
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Russell Brand neu Hywel Gwynfryn... amhosib dewis.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Lisa Angharad