Â鶹ԼÅÄ

Canllawiau newydd i adfywio cleifion gyda chymorth CPR

  • Cyhoeddwyd
Offer calonFfynhonnell y llun, PA

Mae canllawiau newydd ynglŷn â pha bryd y dylid ceisio adfywio cleifion sydd yn agosau at ddiwedd eu bywydau yn cael ei ryddhau i feddygon.

Am y tro cyntaf, bydd pob ysbyty yng Nghymru yn dilyn yr un drefn wrth benderfynnu os yw claf i dderbyn cusan bywyd fel rhan o gymorth cyntaf CPR.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n sicrhau buddianau cleifion.

Yn ôl y Farwnes Ilora Finlay, arbennigwraig ar feddygaeth liniarol, bydd y polisi yn ''osgoi ymdrechion diwerth i ail-gychwyn curiad calon person pan y bydd wedi stopio.''

Ychwanegodd: ''Bydd yn gwella'r gwaith o ymgynghori gyda phobl am eu dymuniadau pan fo marwolaeth yn anochel.''

Bydd y polisi newydd yn ymdrech i osgoi triniaeth CPR ''anaddas, diurddas ac allai fod yn niweidiol'' i bobl 18 oed a hÅ·n.

Fe fydd y canllawiau newydd yn esbonio sut y dylai staff barchu dymuniadau cleifion.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething: ''Mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd i drafod marwolaeth.

''Rydym yn cynllunio ar gyfer rhai o ddigwyddiadau mwyaf bywyd - genedigaethau, graddio, a phriodasau - ond rydym yn rhy aml yn peidio trafod y digwyddiad fydd yn cael yr effaith mwyaf ar y bobl o'n cwmpas.''