Â鶹ԼÅÄ

Patagonia 150: Y dathlu ar ddechrau

  • Cyhoeddwyd
Y Wladfa Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n 150 mlynedd ers i'r Cymry cyntaf groesi i Batagonia i sefydlu'r Wladfa

Perfformiadau theatr, cyngherddau corawl a rhaglenni dogfen fydd ymhlith y digwyddiadau i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Mewn digwyddiad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru nos Iau, mae'r Prif Weinidog a'r Cyngor Prydeinig yn lansio rhaglen y dathliadau.

Yn ogystal â'r digwyddiadau celfyddydol yng Nghymru a Phatagonia, fe fydd pecyn ar-lein o ddeunyddiau addysgol wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gael i ysgolion.

Fe fydd yn ganolbwynt i'r rhai sy'n chwilio am fanylion digwyddiadau eleni, gyda'r Cyngor Prydeinig hefyd yn gyfrifol am bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.

Uchafbwyntiau Celfyddydol

  • Am y tro cyntaf erioed bydd y Theatr Genedlaethol, National Theatre Wales ac S4C yn cyfuno i lwyfannu drama newydd ger Aberdar, "150," dan arweinyddiaeth Marc Rees.

  • Yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst bydd actorion ifanc o Gymru a Phatagonia yn cyflwyno "Mimosa," drama newydd am y rhai sefydlodd y Wladfa. Fe fydd y ddrama wedyn yn mynd ar daith i'r Ariannin.

  • Mae'r cyfansoddwr Paul Mealor wedi ysgrifennu gwaith newydd i Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fydd yn teithio i Batagonia i berfformio'r gwaith.

  • Ym Machynlleth bydd oriel MOMA Cymru yn cynnal arddangosfa o baentiadau Kyffin Williams. Cafodd y lluniau, sydd fel arfer dan ofal y Llyfrgell Genedlaethol, eu paentio pan aeth yr artist i Batagonia ym 1968.

Disgrifiad o’r llun,

Huw gyda Monw Evans de Hughes a'i merch Donna yn eu cartref yn Nhrelew

i ffilmio rhaglenni dogfen yn Gymraeg a Saesneg. Bydd y rhain yn ymddangos ar Â鶹ԼÅÄ Cymru ac S4C yn yr haf.

Dwedodd Carwyn Jones: "Fel cenedl, rydyn ni'n ymfalchïo yn y cysylltiad cryf sydd gennym â'r Wladfa. Mae'n 150 mlynedd bellach ers i'r 153 o ymfudwyr hwylio ar y Mimosa i ymsefydlu ar arfordir Talaith Chubut ym Mhatagonia - carreg filltir sylweddol. Erbyn heddiw mae tua 50,000 o bobl Patagonia â gwaed Cymreig."

"Dyna pam rydyn ni wedi helpu'r British Council i gydlynu a hyrwyddo amrywiol ddigwyddiadau i nodi'r achlysur a'n cysylltiad â Phatagonia. Rwy'n falch iawn bod cymaint o bobl a sefydliadau yng Nghymru a Phatagonia wedi bod yn paratoi ar gyfer y dathliadau, gan drefnu digwyddiadau ar draws Cymru ac yn Lerpwl, Llundain, Patagonia a Buenos Aires. Rwy'n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o'r digwyddiadau yn ystod y flwyddyn."

Mae cyfarwyddwr y Cyngor Prydeinig, Jenny Scott, yn gobeithio bydd dathliadau eleni yn hybu diddordeb yng Nghymru a Phatagonia:

"Ym Mhatagonia ei hun mae mwy o ddiddordeb nag erioed yn y Gymraeg, gyda'r nifer uchaf eto o bobl yn cofrestru i ddysgu Cymraeg drwy'n cynllun ni. Hefyd mae diddordeb cynyddol gan ysgolion yng Nghymru a Phatagonia mewn cydweithio drwy'n menter Connecting Classrooms.

"Mae chwech o ysgolion bellach wedi gefeillio, ac rydym yn disgwyl i ragor ymuno â'r rhaglen dros y flwyddyn nesaf. Hefyd mae prosiectau llenyddiaeth a cherddoriaeth ar y gweill a fydd, gobeithio, yn parhau i gryfhau'r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Phatagonia."