Â鶹ԼÅÄ

Trwydded i anwybyddu'r ddraig?

  • Cyhoeddwyd
Licence

Mae cynlluniau wedi eu datgelu gan Lywodraeth San Steffan i Dyma i chi ddwy farn wahanol ar y mater.

YN ERBYN

Ar Ionawr 28 bydd Gwenith Owen yn cyflwyno deiseb i'r Senedd yn gwrthwynebu'r cynlluniau. Mae Gwenith wedi sgwennu blog i Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw yn egluro pam ei bod hi'n gwrthwynebu'r datblygiad:

'Ym mol y morfil'

Mae gan John Bwlchllan stori dda am Jona a'r morfil. Wrth i'r morfil lyncu Jona mae'n dweud wrtho, "Bellach y' ni'n un. A myfi yw'r un." Dyna yw Prydeindod. Nid partneriaeth mohono ond ewyllys un wlad a orfodwyd trwy drais ar dair arall.

Nid yw Prydeindod wedi bod o fudd i Gymru. Ry' ni'n dioddef o salwch meddwl erbyn hyn, salwch sy'n codi arnom ofn bod yn weledig ac ofn cael ein gadael.

Mae ofn gweithredu arnom ac ofn sefyll ar ein traed ein hunain gan i ni gredu'r hen ystrydeb, a wynebwyd gan yr Alban eisoes, ein bod yn rhy fach ac yn rhy dlawd.

Prydeiniwyd oddi wrthym ein hadnoddau a'n gadael i fyw ar gardod gwlad. Credwn fod ein hiaith yn dda i ddim a'n diwylliant ond yn werth rhywbeth os yw'n efelychu'r hon a berthyn i'n meistri ymerodrol.

Yn y pen draw, mae'r sawl sy'n gwrthod hunaniaeth Brydeinig yn gwrthod gorthrwm cenedlaetholdeb Prydeinig. Mae'n gwrthod antur wladychol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r hiliaeth oedd yn sail iddo.

Mae'n gwrthod ffawd y sawl a gafodd ei wladychu, sef gwasanaethu gweledigaeth ei ormeswr, a gormesu eraill yn eu tro.

Honnir fod Jac yr Undeb yn uno pawb. Yma yng Nghymru fe all baner Cymru wneud yr un gwaith. Gallwch fod yn Gymro neu'n Gymraes beth bynnag eich iaith, lliw a chredo.

Nid oes yn rhaid wrth faner y Jac er mwyn bod yn gyfaill i'r lleill o wledydd Prydain nac i wledydd eraill y byd. Ni all Prydain neilltuo iddi hi ei hun werthoedd yr ydym i gyd yn gobeithio eu coleddu chwaith.

Achos plwyfol yw hwn yn y pen draw, ymdrech gan y Ceidwadwyr i apelio at bleidleiswyr de-ddwyrain Lloegr, ac i atal y llif tuag at UKIP. Mae gosod y faner ar ein trwyddedi yn un weithred ymysg y cant a'r mil sy'n ein bychanu.

Nid oes yna na ddu nac aur na gwyrdd na thafod na chwt ar faner Jac yr Undeb. Cred yw Prydeindod ac mae'n bryd i ni droi'n anghredinwyr. Rwy'n benderfynol o gael y morfil 'na i'n 'hwdu ni'n 'ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Baner yr Undeb Ewropeaidd sydd ar y trwyddedau gyrru ar hyn o bryd

O BLAID

Mae Tom McCall, sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin, bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae ganddo farn gwbl wahanol ar sefyllfa'r drwydded:

Er gwaetha' ymdrech cenedlaetholwyr yr Alban, mae gwledydd Prydain dal mewn Undeb. Yng Nghymru ma'r chwant am annibyniaeth erioed wedi bod yn is, gyda dim ond 3% yn cefnogi gadael gweddill y wlad.

Mae'r cenedlaetholdeb anwybodus hyn yn mynd at ganol y ddadl dros gael baner yr Undeb ar y drwydded yrru. Rydyn ni'n byw mewn gwlad sy'n perthyn i bob cwr o'n hynys ac mae cael baner yr Undeb a'r geiriau yn Saesneg a Chymraeg yn symbolaidd o hyn a rhywbeth mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn cefnogi.

Does 'na ddim cynllwyn dirgel tu ôl rhoi'r faner ar y drwydded. Mae'r faner yn dangos y wlad lle mae'r drwydded wedi'i chreu. Yn gyfreithiol, Prydain sy'n creu'r trwyddedau nid y llywodraethau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Wrth gwrs, ar y foment, dim ond un faner sydd ar ein trwydded yrru, un yr Undeb Ewropeaidd. Does neb wedi dechrau deiseb, wedi protestio neu ysgrifennu erthygl am hyn.

Pam? Ond a yw Brwsel wedi gwneud union yr un peth ac y mae 'San Steffan' yn cael i gyhuddo o wneud?

Dim ond 6,500 sydd wedi llofnodi'r ddeiseb i wrthwynebu baner yr Undeb, llai na sydd yn gofyn i blant ysgol Cymru cael mynd ar wyliau yng nghanol amser tymor (14,980).

Ydi'r drwydded newydd yn ymosodiad ar ein Cymreictod? Na, trwy gadw'r Gymraeg ar ein trwydded rydyn ni'n dangos ein hunaniaeth a'n balchder i fod yng Nghymru ond eto gyda baner yr Undeb yn dangos ein bod yn rhan o Brydain."

Beth yw eich barn chi? Ydych chi'n cytuno gyda Gwenith? Neu oes gan Tom ddadl gref?

Cysylltwch gyda ni ar e-bost: cymrufyw@bbc.co.uk neu trwy ein cyfrif Twitter @Â鶹ԼÅÄCymruFyw

Ffynhonnell y llun, Nigel Davies
Disgrifiad o’r llun,

A fydd baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru fydd yn cael eu prosesu yn Asiantaeth Drwyddedu'r DVLA yn Abertawe yn y dyfodol?