Cyfri cost cynyddu nifer ACau

Byddai cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad o 60 i 80 yn costio hyd at £9m yn y flwyddyn gyntaf, yn ôl adroddiad.

Mae Comisiwn y Cynulliad - sy'n gyfrifol am weinyddu swyddfeydd Aelodau Cynulliad - wedi bod yn cyfri'r gost wrth i rai alw am gynyddu eu niferoedd.

Mae Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, wedi galw yn y gorffennol am gynyddu nifer yr ACau i 80, ac mae Comisiwn trawsbleidiol y Cynulliad wedi cydsynio â hynny.

Mae'r gwaith ymchwil yn awgrymu y byddai cynnwys 80 AC yn costio £7-9 miliwn yn y flwyddyn gyntaf, ac y byddai 100 AC yn costio £14-£17 miliwn.

Ar hyn o bryd, mae 60 aelod yn costio oddueutu £50m y flwyddyn.

Yn ogystal, mae Comisiwn y Cynulliad yn galw am i'r pŵer i bennu maint y Cynulliad gael ei drosglwyddo o San Steffan i Fae Caerdydd.