Â鶹ԼÅÄ

Plac glas i gofio gwyddonydd o Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Sir William GroveFfynhonnell y llun, Swansea council
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyfunodd Syr William Grove yrfa ym myd cyfraith a gwyddoniaeth

Fe fydd plac glas yn cael ei osod i gofio gwyddonydd ddyfeisodd dechnoleg i bweru rocedi gofod.

Fe ddatblygodd Syr William Grove, o Abertawe, y gell gyntaf i gynhyrchu ynni trydanol, drwy gyfuno hydrogen ac ocsigen yn 1842.

Yn ddiweddarach, fe ddarparodd y dechnoleg ddŵr a phŵer i gyrchoedd Apollo i'r lleuad.

Fe fydd y plac yn cael ei osod ger ei gartref yn Grove Place yn y ddinas.

Fe gyfunodd Syr William - oedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Athroniaeth a Llenyddiaeth Abertawe - yrfa ym myd cyfraith a gwyddoniaeth.

Dair blynedd cyn iddo ddatblygu'r gell hydrogen, fe ddyfeisiodd y batri asid nitrig.

Bu farw Syr William yn 1896 ac mae wedi ei gladdu ym mynwent Kensal Green yn Llundain.