Â鶹ԼÅÄ

Caryl a'r band o gymeriadau

  • Cyhoeddwyd
Mi fydd ail raglen y gyfres newydd ar S4C ddydd MercherFfynhonnell y llun, Boom
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd ail raglen y gyfres newydd ar S4C ddydd Mercher

Ma Caryl Parry Jones wedi bod yn cymeriadu'r Cymry ers dros 30 mlynedd. I gyd-fynd â'i chyfres ddiweddara' ar S4C,Caryl a'r Lleill, fe fuodd hi'n sôn wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw am rai o'i hoff gymeriadau, y broses 'sgwennu ac ambell i ddywediad bachog:

'Cyffwrdd pob rhan o Gymru'

Does 'na byth fwriad penodol gen i o'r dechrau i 'neud math arbennig o gymeriad. 'Dwi jest yn gweld teips sy'n gallu cael eu crisialu mewn un dywediad neu air: "OMAIGOD", "gwbod'i sdwwwwff", "obviously".

Ond un peth 'dwi yn ceisio ei wneud ydi cyfleu cymeriadau sy'n cyffwrdd pob rhan o Gymru. Os edrychwch chi ar y gyfres newydd, ma' 'na gymeriadau o sawl cornel - ardaloedd sy' ddim wastad yn cael gymaint â hynny o sylw.

Ma' nhw hefyd yn gymeriadau sy'n unigryw i'r Gymru Gymraeg - dydi popeth ddim yn cyfieithu. Os meddyliwch chi am Val a Jojo, er enghraifft, yn cynrychioli'r dysgwyr. Mi ro'n i isie cyfleu acen mewnfudwyr yn hwnna. Val a Jojo yw'r cymeriadau sy'n siarad y Gymraeg mwya' safonol o bob un - mae'n Gymraeg perffaith a dweud y gwir.

Hoff gymeriadau

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

OMAIGOD... Delyth a Bethan ar wyliau yn Ibiza

Fe ymddangosodd Delyth a Bethan ar y sgrîn am y tro cynta' yn 1983. Mi oedd y ddwy, i fod yn onest, yn thick. Dyna sy'n gwahaniaethu'r ddwy i'r ferch ysgol yn y gyfres newydd, Ffion Carlton-Lewis.

Ffynhonnell y llun, Boom
Disgrifiad o’r llun,

Ffion Carlton-Lewis: Ma' hi "totes yn ffan o T H Parry Williams"

Mi ddatblygodd y syniad am gymeriad Ffion o fy nghyfnod i fel Bardd Plant Cymru. Fe wel'is i blant oedd yn bwrpasol yn siarad yr un iaith â'i gilydd, ac yn aml yn newid yr acen a'r iaith fydden nhw'n eu defnyddio adref.

Fe wnes i hi'n ferch alluog ar bwrpas. Dydi hi ddim yn thick fel oedd Delyth a Bethan.

Un o'r rhesymau mawr dros fwynhau chwarae Veloria yw'r diffyg padding! Does dim angen fat suit neu Lycra o gwbl. Mi o'n i hefyd wir isio cymeriad gydag acen Cwm Tawe.

Ffynhonnell y llun, Boom
Disgrifiad o’r llun,

A fydd Veloria yn brolio am ei 'bargeinion' diweddaraf?

Mae Cameron Jenkins yn stori arall. Yn gynta' dwi'n gwisgo Lycra, wedyn ma'r fat suit, wedyn shorts hir tynn o dan y shorts rygbi. Wedyn crys rygbi tynn a wig a chap sgrym a tapie a bandage! Mae'r broses yn un hir ac anghyfforddus iawn.

Ond fel cymeriad, ma' Cameron yn un o'n hoff rai. Mae'n grêt gallu hefyd cyflwyno 'Bamps' - tadcu Cameron - i'r gyfres newydd. Mi fydd o'n rhoi pregeth wythnosol ac yn rhoi'r byd yn ei le.

Ffynhonnell y llun, Boom
Disgrifiad o’r llun,

'Rollercoaster emotional, obviously'

Latter day Glenys ydi Sioned Grug a'i chyngor eisteddfodol. Yn y gyfres newydd, mae brenhines y pethe yn trafod pob dim yn ei rhaglen newydd i ferched, 'Bwrlwm'.

Ffynhonnell y llun, Boom
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioned Grug yn ôl gyda'i chyngor gwyyyuuuch.

Mi 'naeth côr yr 'Only Menopause' eu debut ar ddiwedd y rhaglen gynta'. Er nad oes 'na ganeuon rhwng y sgetsys yn y gyfres hon, mae'r gân olaf yn gyfle i mi gyfuno'r comedi â'r gân. Yn sicr, mae 'na rywbeth i bawb.

Bydd Caryl a'r Lleill yn parhau ar S4C, 20:30, Nos Fercher 28 Ionawr. Gallwch wylio'r rhaglenni yn ôl drwy'r neu .

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol