Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Gerallt Pennant

  • Cyhoeddwyd
Gerallt Pennant

Y darlledwr Gerallt Pennant sydd yn ateb cwestiynau busneslyd Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw yr wythnos hon ar ôl iddo fo dderbyn galwad cynnar! Mae o'n ddiolchgar iawn i am ei enwebu:

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Roedd mam yn cadw ieir a fusutors (ymwelwyr), dwi'n cofio dweud "Shut up you old gas bag!" wrth un o'r fusutors.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Anna Ford.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gofyn, pan oeddwn yn y chweched dosbarth ac yn trefnu TÅ· Silyn ar gyfer eisteddfod yr ysgol i un o hogia fform wan, "Hei, fedri di ganu washi?" Yr hogyn o fform wan oedd Bryn Terfel.

Disgrifiad o’r llun,

"Hei, fedri di ganu washi?"

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ym mynwent Artillery Wood, ger bedd Hedd Wyn ym mis Awst eleni.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Peidio taro haearn poeth, na thorri ffyn pan welai nhw, ac ateb cwestiynau chwithig mewn damhegion.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Salzburg.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Eisteddfod Aberteifi, 1976, cwmni da ac Edward H Dafis ar lwyfan y pafiliwn.

Oes gen ti datŵ?

Dim ffiars o beryg, a dim math o awydd 'chwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n brofiad emosiynol i nifer o Gymry i weld bedd Hedd Wyn

Beth yw dy hoff lyfr?

'Y dyn a blannai goed' cyfieithiad Martin Davis o glasur Jean Giono.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy 'sanau cerdded.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

Saving Private Ryan.

Dy hoff albwm?

Moelyci gan Steve Eaves.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Oes 'na gaws Picos de Europa ar y fwydlen?

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Gaiff y pwdin fod yn gaws? Os felly caws, a hwnnw'n gaws glas o fynyddoedd y Picos de Europa.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Fel perchennog balch Nokia 6310i, ffonio!

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Elzéard Bouffier, prif gymeriad 'Y dyn a blannai goed'.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Y dyn a blannai goed' wedi creu argraff fawr ar Gerallt

Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesa'?

Meinir Gwilym. Pob hwyl Meinir!