Â鶹ԼÅÄ

Sesiynau i roi gwybodaeth am gynlluniau i gwympo coed

  • Cyhoeddwyd
Coedwig Cwmcarn
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cau Ffordd y Goedwig er mwyn gallu cwympo coed llarwydd sy'n dioddef o glefyd heintus.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal sesiynau galw heibio i roi gwybodaeth i bobl ynglŷn â chynlluniau i gwympo coed yng nghoedwig Cwmcarn a chau Ffordd y Goedwig.

Mae'r mudiad yn gwahodd pobl sy'n byw ger coedwig Cwmcarn i ddod draw i wybod mwy am y bwriad i gau Ffordd y Goedwig.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae gwneud hyn yn angenrheidiol er mwyn cwympo coed i geisio mynd i'r afael â chlefyd sy'n lladd coed llarwydd.

Ond mae rhai wedi beirniadu'r cynllun, gyda dros 1,900 o bobl wedi arwyddo deiseb ar wefan Llywodraeth Cymru yn galw ar weinidogion i wrthdroi'r penderfyniad, gan bryderu na fydd y ffordd yn cael ei hailagor.

Angen cwympo150,000 o goed

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cau Ffordd y Goedwig yn ddiweddarach eleni er mwyn cwympo llawer o goed llarwydd sy'n dioddef o glefyd heintus na ellir ei drin.

Bydd Ffordd y Goedwig, sef ffordd saith milltir o hyd trwy goedwig Cwmcarn, yn cau Ddydd Sul 2 Tachwedd 2014 er mwyn caniatáu i dîmau fynd ati'n ddiogel i baratoi, cwympo a symud mwy na 150,000 o goed heintiedig oddi ar fwy na 162 hectar (400 acer) o dir.

Bydd gweddill yr atyniad, gan gynnwys y ganolfan ymwelwyr, y mannau chwarae, y llwybrau troed a'r llwybrau beicio mynydd, ar agor fel arfer drwy gydol y flwyddyn.

'Tawelu meddyliau'

Meddai Andy Schofield, Rheolwr Tir Rhanbarthol Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Deallwn fod nifer o bobl yn bryderus ynglŷn â'r gwaith cwympo ac maen nhw wedi holi pam mae'n rhaid inni gau'r ffordd. Dyna pam rydym wedi trefnu'r sesiynau yma.

"Gall pobl ddod draw a gofyn cwestiynau i'n staff ynglŷn â'n gwaith a'n cynlluniau ar gyfer dyfodol y goedwig.

"Hefyd, rydym eisiau tawelu meddyliau pobl mai ein nod ar gyfer y goedwig yn yr hirdymor yw adfer a chyfoethogi'r ardal fel y gall barhau i fod yn atyniad gwych, yn ogystal â pharhau i fod yn bwysig i drigolion ac economi'r ardal."

Mae cynllun hirdymor i ail-blannu coed eraill ar y safle ac ailagor y ffordd.

Ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y bydd angen "buddsoddiad sylweddol" ar gyfer gwneud hyn, ac ni all y mudiad ymrwymo i hynny ar hyn o bryd.

Bydd y sesiynau gwybodaeth yn cael eu cynnal 10yb-2yh dydd Sul 21 Medi a dydd Llun 22 Medi yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn.