Â鶹ԼÅÄ

Trais yn y cartref: Croesawu ymgynghoriad

  • Cyhoeddwyd
Merch wedi ei churoFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae Plaid Cymru a'r Digital Trust wedi croesawu cyfnod ymgynghori'r llywodraeth o wyth wythnos ar gryfhau'r gyfraith yn erbyn trais yn y cartref.

Mae'r llywodraeth yn cydnabod nad oes unrhyw gyfraith benodol yn erbyn rheolaeth orfodol (coercive control) mewn perthynas gan ddefnyddio'r cyfnod ymgynghori i ofyn sut mae modd cryfhau'r gyfraith.

Mae'r llywodraeth yn debygol o ddod i'r casgliad bod y gyfraith yn annigonol gan fethu cymryd i ystyriaeth patrymau neu gyfnodau o ymddygiad camdriniol.

Roedd cynllun i wneud rheolaeth orfodol yn drosedd wedi ei gynnwys mewn mesur wedi ei gyflwyno yn NhÅ·'r Cyffredin gan Elfyn Llwyd AS ym mis Chwefror eleni.

Byddai'r mesur yn llenwi 'bwlch' yn y gyfraith bresennol ar drais yn y cartref, yn ôl cefnogwyr.

Manylion y Mesur

Mae'r mesur yn datgan y bydd unrhyw berson sy'n gweithredu unwaith neu dros gyfnod o amser mewn modd sy'n cael ei ystyried yn rheoli gorfodol yn euog o drosedd.

Os yw person yn cael ei ddyfarnu'n euog o'r drosedd yn Llys y Goron gall dderbyn dedfryd o gyfnod yn y carchar o hyd at 14 mlynedd.

Yn ogystal, mae'r mesur yn rhoi dyletswydd orfodol ar yr Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau bod pob llu heddlu yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn datblygu a gweithredu polisiau a safonau ysgrifenedig ar gyfer swyddogion yr heddlu sy'n gyfrifol am drais yn y cartref.

Bydd y mesur hefyd yn sicrhau bod hyfforddiant yn ymwneud â thrais yn y cartref ar gael i bob asiantaeth cyfiawnder troseddol o fewn blwyddyn i pan ddaw'r mesur i rym.

Cafodd y mesur gefnogaeth drawsbleidiol gan gynnwys Syr Edward Garnier (y Blaid Geidwadol), Cheryl Gillan (y Blaid Geidwadol), Syr Bob Russell (y Democratiaid Rhyddfrydol), Sandra Osborne (y Blaid Lafur), Caroline Lucas (y Blaid Werdd) a Margaret Ritchie (Plaid y Democratiaid Cymdeithasol a Llafur).

'Cyfraith gryfach ar unwaith'

Mae awduron papur briffio i Aelodau Seneddol sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Mawrth, Elfyn Llwyd AS, Delyth Jewell a Harry Fletcher, yn dadlau y byddai'r Mesur Rheol 10 munud yn cryfhau'r gyfraith gan olygu bod mwy o ddioddefwyr yn rhoi gwybod am y camdrin a sicrhau bod yr heddlu yn ymchwilio'n gywir i ymddygiad o reolaeth orfodol gan roi mwy o dystiolaeth i erlynyddion i erlyn drwgweithredwyr a sicrhau bod y llysoedd yn eu cael yn euog.

Mae Aelodau Seneddol yn cael eu hannog i gefnogi'r addasiad i'r Mesur Trosedd Difrifol yn yr hydref.

Dywedodd Harry Fletcher, Cyfarwyddwr y Digital-Trust, wnaeth gydlynu drafftio'r mesur yn 2014: "Mae trais yn y cartref yn drosedd ddifrifol, tydi'r gyfraith ddim yn diogelu dioddefwyr, y rhan fwyaf ohonyn nhw'n ferched, ac mae'r sawl sy'n cyflawni'r drosedd yn cael pŵer pellach gan batrymau neu gyfnodau o gamdrin.

"Mae angen cyfraith gryfach ar unwaith."

Dywedodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd AS: "Mae fy mesur i'n cyd-fynd â'r ffordd mae'r llywodraeth yn meddwl, mae'n gwneud rheolaeth orfodol yn drosedd ac yn gwneud hyfforddiant yn orfodol ar gyfer pob gweithiwr cyfiawnder troseddol, yn enwedig yr heddlu ac erlynyddion.

"Bydd y mesur yn cael ei gyflwyno fel addasiad i'r Mesur Trosedd Difrifol fydd yn cyrraedd TÅ·'r Cyffredin rhywbryd yn ystod yr hydref. Mae hi'n debygol iawn y bydd y llywodraeth yn creu eu hargymhellion eu hunain tua'r un pryd.

"Pe bai'r mesurau'n cael eu gweithredu'n gywir, byddan nhw'n sicrhau cynnydd sylweddol mewn rhoi gwybod am droseddau, ynghyd â'u herlyn a chael drwgweithredwyr yn euog."