Â鶹ԼÅÄ

'Un tocyn wrth integreiddio system drafnidiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Argraff artistFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r rhwydwaith cyfan, a allai gael ei adeiladu erbyn 2030, yn costio dros £2 biliwn

Mae'r adroddiad diweddaraf am y weledigaeth ar gyfer Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn datgelu y byddai'n rhwydwaith trafnidiaeth cyflym "sy'n integreiddio pob dull o drafnidiaeth" ac yn galluogi'r teithiwr i ddefnyddio pob rhan o'r rhwydwaith gydag un tocyn.

Yn ôl yr , y nod yw darparu o leiaf pedwar gwasanaeth yr awr "ar gyrion y rhwydwaith", a fydd yn cynyddu i chwech dros amser a gwasanaethau mwy rheolaidd "yn y craidd".

Dywed y byddai Metro yn darparu rhwydwaith "lle mae cyfnewid yn hawdd gan ddefnyddio cerbydau a gynlluniwyd i fod yn gyflym a darparu digon o le i deithwyr".

Ychwanegir y byddai gorsafoedd yn darparu gwell cyfleusterau i deithwyr "ac yn dod yn ganolbwynt i'w cymunedau".

Byddai'r rhwydwaith cyfan, a allai gael ei adeiladu erbyn 2030, yn costio dros £2 biliwn.

'Ymarferoldeb'

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart: "Rydym wedi canolbwyntio ar edrych ar ymarferoldeb y syniadau a restrwyd yn yr astudiaeth wreiddiol.

"Mae'r Metro yn brosiect tymor hir uchelgeisiol a cheir syniadau eithaf radical ynddo. Felly mae angen edrych sut y gallwn bwyso a mesur rhai o'r syniadau hyn ac yr un pryd, cynnal gwelliannau ar lawr gwlad nawr. Dyna yw amcanion y cynllun hwn.

"Mae'r Metro yn fwy na phrosiect trafnidiaeth. Bydd yn sbardun ar gyfer gweddnewid rhagolygon economaidd a chymdeithasol y rhanbarth a gweddill Cymru."

Meddai Roger Lewis, Cadeirydd Bwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: "Rwy'n falch iawn o weld y gwaith sydd wedi'i wneud i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cam nesa'r Metro.

"O'r dechrau'n deg, mae Bwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi pwysleisio pwysigrwydd y Metro fel cyfrwng i weddnewid. Mae hynny, gyda chysylltiadau trafnidiaeth gwell yn graidd iddo, yn angenrheidiol os ydym am wella canlyniadau economaidd a chymdeithasol y de-ddwyrain".