Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yma o Hyd yw dewis y bobl
Yma o Hyd gan Dafydd Iwan ac Ar Log sydd wedi dod i frig Siart Fawr yr Haf ar Radio Cymru.
Fe wnaeth dros 1,500 bleidleisio dros eu tair hoff gân a chafodd y 40 uchaf i gyd eu chwarae ar y radio ar brynhawn dydd Llun Gŵyl y Banc mis Awst.
Roedd nifer o ganeuon cyfarwydd ar y rhestr gan gynnwys pedair gan Bryn Fôn, ond roedd llawer o rai cyfoes hefyd gyda Sŵnami a'r Bandana â thair cân yr un.
Hen glasuron yw'r 10 uchaf i gyd heblaw am Anifail gan y band ifanc o Benllyn, Candelas.
Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: "Ni wrth ein boddau bod gymaint o'r gynulleidfa wedi cyfrannu at Siart Fawr yr Haf a rhannu eu hoff ganeuon gyda ni. Mae pobol wedi mynd i drafferth i feddwl o ddifri am ganeuon sy'n gofiadwy iddyn nhw, yn golygu rhywbeth iddyn nhw neu falle yn eu hysgogi nhw i neidio ar eu traed a chanu!
"Mae'r Siart yn cynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth Gymraeg o sawl cyfnod ac mae'n wych gweld bod amryw o fandiau ifanc, gan gynnwys artistiaid prosiect Gorwelion, sydd wedi cael cefnogaeth Radio Cymru, sef Sŵnami a'r Candelas, yn dod i'r amlwg. Maen nhw'n cael eu lle yn y deugain law yn llaw a'r clasuron ac mae hynny'n beth gwych."
Y rhestr lawn
- 1 Dafydd Iwan ac Ar Log - Yma o Hyd
- 2 Rhys Meirion - Anfonaf Angel
- 3 Edward H Dafis - Ysbryd y Nos
- 4 Bryn Fôn - Ceidwad y Goleudy
- 5 Elin Fflur - Harbwr Diogel
- 6 Huw Chiswel - Y Cwm
- 7 Candelas - Anifail
- 8 Maharishi - TÅ· Ar y Mynydd
- 9 Gwibdaith Hen Fran - Trôns Dy Dad
- 10 Elin Fflur - Ar Lan y Môr
- 11 Bromas - Merched Mumbai
- 12 Tebot Piws - Lleucu Llwyd
- 13 Bando - Chwarae'n Troi'n Chwerw
- 14 Dafydd Iwan - Esgair Llyn
- 15 Edward H Dafis - Breuddwyd Roc a Rôl
- 16 Bandana - Geiban
- 17 Gwibdaith Hen Fran - Coffi Du
- 18 Yr Eira - Elin
- 19 Gwyneth Glyn - Adra
- 20 Sŵnami - Y Nos
- 21 Meic Stevens - Môr o Gariad
- 22 Y Bandana - Heno yn yr Anglesey
- 23 Big Leaves - Seithenyn
- 24 Sŵnami - Gwreiddiau
- 25 Tecwyn Ifan - Y Dref Wen
- 26 Catrin Herbert - Ein Tir Na Nog ein Hunain
- 27 Dafydd Iwan - Pam fod Eira yn Wyn?
- 28 Meic Stevens - Y Brawd Houdini
- 29 Colorama - Dere Mewn
- 30 Bryn Fôn - Abacus
- 31 Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr - Ethiopia Newydd
- 32 Y Cyrff - Cymru Lloegr a Llanrwst
- 33 Yr Ods - Y Bêl yn Rowlio
- 34 Bryn Fôn - Cofio dy Wyneb
- 35 Diffiniad - Calon
- 36 Bandana - Can y Tân
- 37 Caryl Parry Jones - West is Best
- 38 Bryn Fôn - Rebal Wîcend
- 39 Catrin Herbert - Disgyn Amdana Ti
- 40 Sŵnami - Du a Gwyn
Beth yw'ch barn chi am y siart? Cytuno bod Dafydd Iwan yn haeddu ei le ar y brig? Neu'n gandryll gyda'r diffyg Datblygu a Tystion ar y rhestr? Cysylltwch â Cymru Fyw ar ein cyfeiriad ebost cymrufyw@bbc.co.uk i rannu eich barn.