Canlyniadau profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol

Am y tro cyntaf mae canlyniadau llawn profion llythrennedd a rhifedd sy'n cael eu rhoi i holl blant Cymru rhwng blynyddoedd 2-9 wedi eu rhyddhau.

Mae'r canlyniadau yn dangos bod merched yn gwneud yn well yn y profion darllen a bechgyn yn gwneud yn well yn y profion rhifedd.

Yn Sir Fynwy oedd y canlyniadau gorau ar gyfer y profion darllen Saesneg ac yng Nghaerdydd oedd y canlyniadau gorau ar gyfer y profion darllen Cymraeg.

Roedd merched wedi gwneud yn well na'r bechgyn yn y ddau fersiwn o'r Prawf Darllen Cenedlaethol, gyda mwy o ferched yn llwyddo i gael sgôr safonedig o 115 neu fwy.

Roedd mwy o fechgyn na merched wedi llwyddo i gael sgôr safonedig o 85 neu lai yn y ddau fersiwn o'r Prawf Darllen Cenedlaethol.

Roedd y canran uchaf o ddisgyblion yn derbyn sgôr safonedig uwch na 115 yn Sir Fynwy yn y fersiwn Saesneg a Chaerdydd yn y fersiwn Gymraeg.

Roedd y canran o ddisgyblion yn derbyn sgôr safonedig llai na 85 ar ei uchaf ym Mlaenau Gwent yn y fersiwn Gymraeg a Saesneg.

Roedd bechgyn wedi perfformio'n well na merched yn yr elfen Trefn a Rhesymu o'r Prawf Rhifedd Cenedlaethol ac roedd mwy o fechgyn na merched wedi llwyddo i gael sgôr safonedig o 115 neu fwy.

Roedd y canran uchaf o ddisgyblion lwyddodd i dderbyn sgôr safonedig o 115 neu fwy yng Ngheredigion yn yr elfen Trefn a Rhesymu o'r Prawf Rhifedd Cenedlaethol, ac roedd y ganran isaf o ddisgyblion lwyddodd i dderbyn yr un sgôr ar gyfer y ddwy elfen ym Mlaenau Gwent.

"Pa mor briodol yw eu cynnal?"

Mae Aled Roberts, Gweinidog cysgodol dros addysg ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn feirniadol o sut mae canlyniadau'r profion yn cael eu dadansoddi a'i rhannu, dywedodd:

"Byddai wedi bod yn fwy defnyddiol pe byddai canlyniadau heddiw wedi gallu dweud wrthym fod gwelliant ar sgoriau'r llynedd, ond nid oes unrhyw beth yn y data rwyf wedi ei ddarllen sy'n dweud wrthyf fod y ffigurau rheiny ar gael.

"Mae'n beth da bod pob ysgol yn cynnal y profion hyn, ond os nad ydynt yn gallu cynhyrchu data ystyrlon, y gellir ei ddefnyddio i adeiladu ar y safonau, yna rhaid i mi gwestiynu pa mor briodol yw eu cynnal yn y lle cyntaf."