Galw am system dramiau i dde Cymru yn lle trydaneiddio

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yr awgrym yw y gall system dramiau, fel sydd yn Manceinion, leihau'r gost yn ne Cymru

Mae arweinwyr busnes wedi dweud y gall system drafnidiaeth metro ar gyfer de Cymru ddatrys yr anghydfod dros bwy ddylai dalu am drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd.

Mae llywodraethau Cymru a'r DU yn dadlau ynglŷn â phwy ddylai dalu am y cynllun sydd werth £500 miliwn.

Ond mae un arbenigwr ar y diwydiant rheilffyrdd, Ian Walmsley yn honni y byddai system dramiau sy'n cysylltu Caerdydd â threfi eraill yn y Cymoedd yn rhatach ac yn fwy effeithiol.

Mae'n awgrymu y byddai'n bosib torri amseroedd teithio o 25% ac arbed 60% o'r gost.

'Mwy effeithiol'

Mae trydaneiddio yn rhan bwysig o'r system metro, sy'n bwriadu gwneud Caerdydd yn leoliad mwy deniadol ar gyfer busnesau a chaniatáu i bobl barhau i fyw yn eu cymunedau drwy hwyluso'r cyfleusterau cymudo i'r brifddinas.

Byddai'r rhwydwaith cyfan yn cynnwys trenau, bysiau a thramiau, a gall y gost gyfan fod rhwng £1 biliwn a £4 biliwn.

Ond dywed Mr Walmsley, oedd yn rhan o'r gwaith datblygu rheilffyrdd y Cymoedd yn yr 1980au, y gall tramiau fod yn rhatach a mwy effeithiol yn y tymor hir.

Dywedodd y gall cynllun tramiau fod yn fwy deniadol oherwydd yr anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan ynglŷn â phwy ddylai ariannu'r broses o drydaneiddio'r rheilffyrdd.

Mae'n honni hefyd y byddai amseroedd teithio hefyd yn lleihau o 25%, a'r gost o newid trenau trwm yn lleihau o 60%.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd

Disgrifiad o'r llun, Mae Bae Caerdydd yn un lleoliad y gallai tramiau gymryd lle trenau a bysiau

Mae amcangyfrif o gost trydaneiddio'r rheilffyrdd rhwng £309m a £463m, ond hyd yma, does neb yn fodlon talu.

Roedd rhywfaint o obaith y gallai penodiad diweddar Stephen Crabb fel Ysgrifennydd Cymru arwain at ddatrys yr anghydfod.

'Trueni mawr'

Dywedodd Chris Sutton, Cadeirydd CBI Cymru: "Mae'n drueni mawr bod anghydfod wedi bod ynglŷn â chyllid y cynllun hwn.

"Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei bod yn 'broblem ddyrys' ac roedd ar ben ei agenda, felly mae'n rhaid i ni weld beth ddaw o hyn."

Mae trydaneiddio yn rhan allweddol o'r prosiect Metro, sy'n cael ei anelu i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Caerdydd a gweddill de-ddwyrain Cymru.

"Efallai bydd y cydbwysedd rhwng y dulliau cludiant gwahanol yn newid wrth symud i'r dyfodol, ond mae cynllun eisoes yn bodoli, mae angen i ni weithio at geisio cyflawni hynny ar hyn o bryd."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddant yn rhyddhau adroddiad am y metro yn fuan.