Y pizza drytaf erioed?

Fe wnaeth bachgen o Gasnewydd ddarganfod ei hun mewn dyled anferth wedi i siop fwyd parod godi bron i £200,000 am bizza mewn camgymeriad.

£17.99 oedd y pris roedd Nathaniel Bolwell, 19 wedi disgwyl ei dalu i'w gangen Domino's leol ond fe aeth rhywbeth o'i le.

"Doeddwn i methu â chredu fy llygaid," meddai.

"Sut wnaethon nhw [y banc] adael i Domino's gymryd yr holl arian yna?

"Ni fyddai'r pryd fwyaf crand yn y bwyty crandiaf yn y byd yn costio ddim byd tebyg i hyn, hyd yn oed petawn i'n mynd a fy holl ffrindiau a fy nheulu mas."

Cafodd yr arian ei dalu'n ôl ar ôl i Nathaniel a'i dad ffonio'r banc i gwyno, ac fe dalodd Lloyd's £100 ychwanegol am y drafferth.

Dywedodd y banc eu bod nhw "wir yn edifar am y lefel o ofid ac anghyfleustra roedd y digwyddiad wedi ei achosi".

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Nathaniel sioc ar ôl gweld ei ddatganiad banc

'Aur a deiamwntiau'

Mae'n debyg fod y camgymeriad wedi digwydd wedi i'r rhif 3232 gael ei ychwanegu at bris y pizza yn hytrach nag ar gyfer awdurdodi'r taliad.

Felly fe aeth £17.99 yn £179,932.32.

Yn ôl tad Nathaniel, Karl fe gaiff ei fab "goginio gartref o hyn ymlaen".

Ychwanegodd: "Mae pobl yn jocian gan ddweud 'yn hytrach na pizza caws a thomato mae'n rhaid ei fod wedi ei wneud o aur a deiamwntiau'."