Â鶹ԼÅÄ

Gwrthod fisas cystadleuwyr Eisteddfod Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl ar draws y byd yn dod i gystadlu yn yr eisteddfod

Mae peryg na fydd nifer o gystadleuwyr o sawl gwlad ddim yn gallu cystadlu yn Eisteddfod Llangollen eleni am fod eu fisas wedi eu gwrthod.

Mae'r trefnwyr wedi dweud wrth raglen Taro'r Post ar Radio Cymru fod fisas rhai o India, Rwsia, Nepal, Morocco, Ghana ac Algeria wedi eu gwrthod a bod hyn yn ergyd fawr i'r wÅ·l.

Mae nifer ohonynt wedi bod yn cystadlu yn yr eisteddfod ers blynyddoedd.

Nid dyma'r tro cyntaf i sefyllfa fel hyn godi.

Y llynedd doedd yn yr eisteddfod na ryw hanner o gystadleuwyr o India.

Ond yn ol yr wÅ·l mae'r broblem yn waeth eleni na mae hi erioed wedi bod o'r blaen.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio trafod y mater gydag Ysgrifennydd Cymru, David Jones AS pan fydd yn ymweld â'r eisteddfod wythnos nesaf.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref am sylw.