Â鶹ԼÅÄ

Grant Loteri £2.8 miliwn i gartref Hedd Wyn

  • Cyhoeddwyd
Yr Ysgwrn
Disgrifiad o’r llun,

Bydd grant o £2.8 miliwn yn sicrhau dyfodol Yr Ysgwrn

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi gwobrwyo £2.8 miliwn i ddatblygu cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, Yr Ysgwrn.

Mae cartref y bardd, a gollodd ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn rhestredig Gradd II*.

Magwyd Ellis Humphrey Evans, sydd yn fwy adnabyddus gan ei enw barddol Hedd Wyn, yn Yr Ysgwrn ac ysgrifennodd gerdd enwog am erchylltra rhyfel.

Bydd grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cael ei roi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fydd yn gwarchod Yr Ysgwrn, safle a ysbrydolodd nifer o weithiau Hedd Wyn.

Bydd hefyd yn diogelu casgliad yr Ysgwrn, gan gynnwys "Y Gadair Ddu", sef cadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 a wobrwywyd iddo wedi ei farwolaeth ar faes y gâd yng nghaeau Fflandrys.

Gellir darganfod mwy am brosiect Yr Ysgwrn mewn ar wefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd Dr Manon Antoniazzi, Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Mae'r Ysgwrn yn rhoi darlun byw inni o fywyd yng Nghymru wledig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae'n gofeb nid yn unig i Hedd Wyn, ond i genhedlaeth o ddynion ifanc Cymreig a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel.

Diogelu dyfodol Yr Ysgwrn

"Bydd y prosiect yn diogelu dyfodol Yr Ysgwrn ac etifeddiaeth Hedd Wyn gan sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall pwysigrwydd y bardd Cymreig hynod hwn a'i waith."

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Emyr Williams: "Mae'r Ysgwrn a'r dirwedd o'i amgylch wedi ysbrydoli nifer o gerddi mwyaf adnabyddus Hedd Wyn ac mae'n parhau i ysbrydoli pobl ledled y byd sydd wedi eu cyfareddu gan stori Hedd Wyn a threftadaeth hynod Yr Ysgwrn.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Hedd Wyn ar Orffennaf 31 1917

"Ein nod yn awr yw sefydlu Yr Ysgwrn fel cyrchfan diwylliannol arloesol, fydd yn cyfleu negeseuon am ddiwylliant, cymdeithas a rhyfel i bobl yn Eryri, Cymru a'r byd.

"Mae hefyd yn ein caniatáu i ddiogelu casgliad unigryw o arteffactau ac archifau Yr Ysgwrn, yn ogystal â darparu cyfleoedd newydd ar gyfer addysg a dehongli i ymwelwyr mewn modd sy'n cydnabod sensitifrwydd y safle hynod a hanesyddol hwn."

Derbyniodd ymdrechion i ddiogelu dyfodol y safle gyhoeddusrwydd yn 2009, wedi i nai Hedd Wyn, Gerald Williams, nodi ei bryderon am ddyfodol Yr Ysgwrn.

Dywed Mr Williams, sy'n 85 mlwydd oed: "Mae cadw drws Yr Ysgwrn ar agor yn fodd o gadw cof fy ewythr yn fyw, ac er fy mod wedi croesawu ymwelwyr ar bob achlysur, nid oeddwn yn sicr y byddai modd parhau i wneud hyn yn y dyfodol.

"Mae pryniant Yr Ysgwrn gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'r grant a roddwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi sicrhau y bydd y drws yn parhau ar agor ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol er mwyn iddynt dalu teyrnged a dysgu am Hedd Wyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol