Gwlad mewn trybini: Profiad Cymro

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl wedi bod yn protestio yn erbyn y coup d'etat ar y strydoedd

Mae Cymro sydd wedi ymgartrefu ym mhrifddinas Gwlad Thai, Bangkok, yn dweud bod y sefyllfa yn y wlad ers i'r fyddin gymryd rheolaeth yno yn gwaethygu fesul dipyn.

Mae Phil Reid, a fu'n actio yng nghyfresi teledu poblogaidd yng Nghymru fel Pobol y Cwm a Dinas cyn mynd i ddarlithio mewn prifysgol yng Ngwlad Thai wedi bod yn siarad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw.

Y fyddin mewn grym

Ers cyhoeddi coup d'etat yr wythnos ddiwethaf, mae'r fyddin wedi arestio'r cyn brif weinidog Yingluck Shinawatra, ac aelodau o'r llywodraeth oedd mewn grym.

Mae cyrffyw bellach mewn grym sy'n gwahardd pobl rhag bod allan ar y strydoedd rhwng 22:00 a 05:00 bob nos.

Mae hi'n sefyllfa bryderus yn ôl Phil Reid:

"Pan gyhoeddwyd martial law i ddechrau doedd neb yn siŵr be fyddai hynny'n ei olygu, dim ond bod rhyw fath o reolaeth filwrol, ac yn y dechrau doedd dim lot o wahaniaeth.

Ond yna fe ddywedon nhw ei fod yn coup go iawn ac mae hynny wedi newid pethau tipyn.

Problemau teithio

Mae'r cyrffyw yn ei gwneud hi'n anodd yn ymarferol o ran teithio, ac mae'n anodd iawn cael gwybod beth sy'n digwydd.

Dwi'n darlithio mewn prifysgol rhyw awr o daith o'r lle dwi'n byw, a ddoe oedd y tro cyntaf i mi deithio adre ac angen bod adre cyn 10.

Dwi'n gorffen gwaith tua 20:30 ac mae'n cymryd awr fel arfer, ond ddoe dim ond jyst cyrraedd mewn pryd nes i ac roedd milwyr ar y stryd ymhobman a does dim chwarae hefo rhywbeth felly."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y prif weinidog Yinglick Shinawatra ei harestio gan y fyddin

Fe ddaeth y coup yn dilyn chwe mis o brotestio yn erbyn y llywodraeth, ac fe gafodd 28 o bobl eu lladd yn ystod y protestiadau.

Yn ôl Phil Reid does dim gwybodaeth na chymorth ar y cyfryngau, ac ychwanegodd:

"Does dim sianeli teledu ar gael - maen nhw wedi tynnu'r rheini i gyd i ffwrdd - a'r unig sianel sydd ar gael yma nawr yw sianel y fyddin coeliwch neu beidio.

Yr unig beth sydd ar hwnnw yw milwyr yn marchio. Does dim gwybodaeth, dim teledu, dim radio.

Swreal

Dwi wedi bod yma o'r blaen pan oedd coup arall yn 2006 ond doedd pethau ddim mor strict bryd hynny. Mae popeth wedi digwydd mor sydyn ac mae o mor swreal.

Dwi ddim yn credu bod neb ohono ni wedi dychryn neu teimlo ofn ac eisiau mynd oddi yma.

Ond y tro yma does nunlle ar agor ar ôl 10 - bariau, caffis, restaurants... pob dim wedi cau - ac mae pobl yn dechrau teimlo'n annifyr iawn iawn yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Phil Reid bod milwyr ar y strydoedd ymhobman pan mae'n dod yn agos at oriau'r cyrffyw