Â鶹ԼÅÄ

Myfi a fi: Mae hyn yn newydd i mi!

  • Cyhoeddwyd

Mae Owain Evans yn llais cyfarwydd i wrandawyr Newyddion Radio Cymru a gwylwyr Newyddion 9. Ond her wahanol iawn sy'n wynebu'r newyddiadurwr wrth iddo ddechrau ar gyfnod tadolaeth.

Mae Owain, sy'n wreiddiol o Landysul, wedi penderfynu aros adref i edrych ar ôl ei ferch fach, Myfi, tra bydd ei wraig, Bethan, yn mynd yn ôl i weithio.

Dros yr wythnosau nesaf bydd Owain yn rhannu ei brofiadau gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw. Dyma i chi ei gofnod cyntaf:

Ffynhonnell y llun, Owain Evans
Disgrifiad o’r llun,

Myfi ac Owain: A fydd Owain yn gwenu pan ddaw'r cyfnod tadolaeth i ben?

Lojistics

"Nos Lun mae clwb drama. Bydd Jen yn mynd â nhw ond bydd rhaid i ti gasglu nhw am bump so bydd ishe casglu Mered o dŷ Janet a rhoi swper i Myfi cyn mynd. Dyw hi ddim fel arfer yn cael pwdin amser swper achos bydd hi'n cael llaeth cyn mynd i'r gwely. Cofia bod tri booster seat 'da ti a phan ei di a Ffion adre cofia gasglu bag ysgol Glain o dŷ Jen. Ti ishe fi ysgrifennu hwn lawr?"

"Na, mae'n iawn" medde fi wrth Mrs E. Mae'r pêl-droed newydd ddechrau ar y radio.

"Bob yn ail ddydd Mawrth mae ymarfer corff gyda Glain ond weithiau mae e ar ddydd Gwener. Wastad bob dydd Gwener da Mered," meddai Mrs E eto. "Wyt ti'n cael texts wrth yr ysgol? Mae ishe i ti gofrestru 'da nhw. Mae'r llyfr darllen fod nôl bob dydd Llun a'r gwaith cartre bob dydd Mawrth"

"Fflipin ec" medde fi wrth foddi dan don o gyfarwyddiadau. "Beth ti'n neud, mynd nôl i'r gwaith neu emigrato i Brazil?"

"Ows," meddai, "mae hwn yn bwysig."

Ffynhonnell y llun, Owain Evans
Disgrifiad o’r llun,

"Mwy o siocled Dadi!"

Do'n i ddim gant y cant am y busnes yma o fod gartre gyda'r babi ond pan wedodd Mrs E, "hwn fydd dy gyfle ola di achos Myfs fydd y babi ola", sut allen i wrthod? Eniwei pa mor anodd all e fod?

"Oce," medde fi, "pa noson mae clwb drama eto?"

Dyw'r cwestiwn ddim yn plesio.

"Byddai'n mynd am wyth bore fory," meddai Mrs E. "Bydd ishe bath a rhoi eu dillad nhw'n barod heno".

"Iawn, dim probs" medde fi. Pryd wedodd hi mae ymarfer corff?

Ffynhonnell y llun, Owaion Evans
Disgrifiad o’r llun,

"Pob hwyl 'da'r smwddio!"

A fydd Owain yn cofio popeth? A yw Bethan ar ei ffordd i Frasil? A fydd Myfi yn gweld newidiadau er gwell neu er gwaeth?

Dewch yn ôl i Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw i weld sut y bydd Owain yn ymdopi!