Kirsty Williams: Llai o Gymry yn San Steffan?

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Daeth sylwadau Ms Williams cyn cyhoeddi ail ran Comisiwn Silk - sy'n edrych ar bwerau llywodraeth Cymru - ddydd Llun

Gallai rhagor o bwerau i lywodraeth Cymru olygu llai o Aelodau Seneddol o Gymru yn San Steffan yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

Yn siarad gyda rhaglen Sunday Politics ar Â鶹ԼÅÄ One Wales, dywedodd Kirsty Williams: "Dwi'n meddwl ei fod e'n anochel os y gwnawn ni symud rhagor o bwerau i lywodraeth Cymru, y bydd angen holi fyddwn ni'n lleihau'r nifer o ASau 'dy ni'n eu hanfon i San Steffan, ac edrych ar gynyddu'r nifer o Aelodau Cynulliad."

Daeth sylwadau Ms Williams cyn cyhoeddi ail ran Comisiwn Silk - sy'n edrych ar bwerau llywodraeth Cymru - ddydd Llun.

Mae disgwyl i'r adroddiad ddweud y dylai llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am yr heddlu ac y dylid cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad.

Dywedodd Kirsty Williams bod dadl dros nifer ACau, ond na ddylid ynysu'r drafodaeth honno: "'Dy ni angen edrych ar sut mae holl lywodraethiant Cymru'n gweithio, a gweld oes gennym ni'n nifer gywir o wleidyddion ar bob lefel".

'Cytundeb parhaol'

Ychwanegodd: "Byddai pobl Cymru'n hoffi'n gweld ni'n symud i gytundeb mwy parhaol, heb y comisiynau cyson yma i addasu datganoli.

"Dwi'n gobeithio y bydd Silk 2 yn cynnig cynllun cadarn ar sut y gallwn ni symud tuag at gytundeb datganoli cynaliadwy a sefydlog er mwyn i ni gael rhoi'r gorau i'r holl sgwrsio.

"Unwaith y bydd dyletswyddau'r Cynulliad yn glir, a chyfrifoldebau ASau o Gymru yn San Steffan, yna gallwn ni drafod faint o wleidyddion sydd eu hangen i wneud y swyddi."

Dywedodd Aelod Cynulliad Brycheiniog a Sir Faesyfed na ddylai unrhyw newid gostio rhagor o arian: "Dwi'n hollol glir ar hyn, all o ddim costio mwy o bres i'r trethdalwr yng Nghymru".

Hwn fydd ail adroddiad y Comisiwn, gafodd ei sefydlu gan lywodraeth San Steffan.

Fe ddywedodd yr adroddiad cyntaf - oedd yn edrych ar bwerau ariannol - y dylid cynnal refferendwm ar roi pwerau treth incwm i lywodraeth Cymru.

Mae 60 o Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd ar hyn o bryd a 40 o Aelodau Seneddol o Gymru yn San Steffan.