Â鶹ԼÅÄ

Achub tri caiaciwr o'r môr ger Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd

Mae hofrennydd wedi achub tri caiaciwr o'r môr wedi iddyn nhw fynd i drafferthion ger Ynys Môn.

Cafodd dau fad achub, Gwylwyr y Glannau a hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali eu galw i'r digwyddiad ger Rhoscolyn oddeutu hanner dydd b'nawn Sadwrn.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Caergybi fod bad achub RNLI Bae Trearddur wedi dod o hyd i'r tri yn y dŵr yn cydio yn eu caiacs.

Fe gafodd y tri eu cludo i'r ysbyty gan yr hofrennydd achub.