Dim digon o ferched yn y byd cyhoeddus

Disgrifiad o'r llun, Mae trio denu mwy o ferched i'r byd cyhoeddus yn flaenoriaeth i'r Fonesig Rosemary Butler

Mae Llywydd y Cynulliad wedi lansio cynllun mentora er mwyn annog mwy o ferched i weithio yn y byd cyhoeddus.

Wrth siarad yn y lansiad yn y Senedd, dywedodd y Fonesig Rosemary Butler y gallai mwy gael ei wneud i ysbrydoli merched i geisio am swyddi cyhoeddus, ac mai diffyg hyder yw'r prif reswm bod llawer o ferched yn amharod i gymryd rhan.

Ychwanegodd bod yr anghydbwysedd rhwng merched a dynion mewn safleodd blaenllaw yn broblem drwy Brydain, nid yn unig yng Nghymru, ond bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud ymdrech fawr i newid y sefyllfa.

Ar hyn o bryd, mae 'na 25 o ferched yn aelodau etholedig o'r Cynulliad - dros draean o'r holl aelodau.

Ond ddwy flynedd yn ôl, fe ddatgelodd adroddiad 'Pwy sy'n rhedeg Cymru?' y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mai:

  • 4% yn unig o brifweithredwyr yn y 50 o brif gwmnïau Cymru sy'n fenywaidd;
  • 5% yn unig o arweinyddion cynghorau sy'n ferched;
  • 25% yn unig o gynghorwyr sy'n ferched;
  • 10% yn unig o brifweithredwyr cyrff cyhoeddus wedi'u noddi gan y Cynulliad sy'n ferched;
  • 23% yn unig o brifweithredwyr llywodraeth leol sy'n ferched;
  • 18% yn unig o aelodau seneddol Cymreig sy'n ferched.

Fe fydd y cynllun yn cael ei redeg gyda Chwarae Teg, mudiad sy'n hybu datblygiad economaidd ymysg merched, ac Ysgol Fusnes Caerdydd.

Fe fydd yn cynnig cyfleoedd mentora, cysgodi a hyfforddiant i ferched.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Mae 'na gannoedd o ferched ar draws Cymru allai wneud llywodraethwyr ysgol gwych, ynadon neu aelodau gwerthfawr o gyrff cyhoeddus eraill."

"Gall mentor yn aml gynnig ysbrydoliaeth i ferched gymryd y cam nesaf; does dim angen i'r mentor ei hun fod yn fenyw."

"Dw i eisiau i ddynion a merched, sydd eisoes yn y byd cyhoeddus, ddatblygu'n fentoriaid a helpu gyda'r cynllun arloesol hwn."