Â鶹ԼÅÄ

Galw am dacluso Ystâd Efyrnwy i hybu twristiaeth

  • Cyhoeddwyd
Llyn Efyrnwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl leol yn poeni na fydd ymwelwyr yn dod os nad yw'r ardal yn cael ei thacluso

Mae trigolion ardal Llanwddyn yn galw am gyfarfod brys hefo cwmni Severn Trent i drafod cyflwr yr ardal y maen nhw'n byw ynddi.

Severn Trent sy'n berchen ar Ystâd Efyrnwy, dros 20,000 erw o harddwch naturiol, sy'n rhan bwysig o'r diwydiant twristiaeth yn y canolbarth.

Ond mae pobl leol yn poeni na fydd ymwelwyr yn parhau i ddod, oherwydd diffyg gwaith cynnal a chadw ar yr ystâd.

Mae Severn Trent yn dweud eu bod am lunio cynllun hir dymor i'r stâd, ond mae pobl Llanwddyn am weld gwelliannau yn cael eu gwneud cyn gynted â phosib.

'Diffyg gofal'

Roedd Severn Trent wedi bwriadu gwerthu'r stâd i gwmni United Utilities ac RSPB Cymru.

Byddai'r gost wedi bod dros £10m ond fe dynnodd United Utilities yn ôl ar y munud olaf.

Mae'r Cyngor Cymunedol lleol yn dweud bod diffyg gofal a gwaith cynnal a chadw gan Severn Trent wedi achosi dirywiad ar y 'stâd, a bod ardaloedd yn edrych yn fler.

Maen nhw'n poeni bod hynny yn gwneud i'r ardal edrych yn llai atyniadol i ymwelwyr.

Mae Brian Ellis yn rhentu fferm ar y stâd, ac mae'n teimlo bod gwaith i'w wneud, i sicrhau bod twristiaid yn dal i fwynhau'r ardal.

"Dwi'n credu bod rheiny (twristiaid) yn mynd i golli allan yn arw i fod yn onest, fyddan nhw ddim yn gallu gweld y llyn achos mae gormod o goed wedi cwympo a phethe fel'ne chi'n gw'bod.

"Mae 'na lanast rownd y llyn i gyd, ar ôl y tywydd mor ddrwg 'aru ni gal llynedd, ac mae popeth yn edrych ar ei waetha', ond does neb i weld yn gwneud dim.

"Mae angen gwneud y lle edrych yn daclus yn gynta', 'di ddim yn edrych mor deidi ag y mae wedi bod erioed. Pan o'n i'n ifanc oeddech chi'n gallu gweld y dŵr o'r ffordd a gweld popeth fel'a, ond 'di hynny ddim yn wir rwan.

"'Di o ddim yn fater costus, ond dal mae popeth yn costio pres."

'Pwysig i dwristiaeth'

Mae gan yr RSPB ganolfan yno o hyd, ac maen nhw'n gobeithio gweld newidiadau yn y dyfodol.

"Mae'r 'stâd yma yn enwedig o bwysig i dwristiaeth a'r economi leol felly rhaid i ni reoli'r 'stâd mewn ffordd gynaliadwy i'r bywyd gwyllt a phobl," meddai Sioned Jones sy'n gweithio yng nghanolfan yr RSPB.

"Rhaid i bobl sy'n dod yma gael amser da, bythgofiadwy i ddod 'nôl tro ar ol tro."

Ar ben hynny, mae hi'n dweud bod yr ardal yn bwysig iawn i fywyd gwyllt, gyda llawer o rywogaethau prin.

Mewn datganiad, dywedodd Severn Trent eu bod nhw am lunio cynllun tymor hir ar gyfer Ystâd Efyrnwy.

Dywedon nhw eu bod nhw am gynnal ymgynghoriad gyda phobl Llanwddyn ar y cynlluniau yma yn y Gwanwyn.