Â鶹ԼÅÄ

Pryderon am lai o welyau mewn uned iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna 42 o welyau yn Uned Hergest, ym Mangor, ar hyn o bryd

Bydd rhan o uned iechyd meddwl ym Mangor yn cael ei chau dros dro wedi i bryderon godi am y driniaeth i gleifion yno.

Ond mae nyrsys a meddygon yn Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd wedi beirniadu'r cynlluniau, gan rybuddio na fyddan nhw'n datrys problemau sydd wedi cael eu "hachosi gan reolwyr, yn hytrach na staff".

Mae yna 42 o welyau yn yr uned ar hyn o bryd, ond mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ystyried cael gwared ar rai ohonyn nhw am y tro, gan ddweud y bydd yn eu helpu i ddatrys problemau sydd wedi codi yno'n ddiweddar.

Roedd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sy'n cadw llygad ar y gwasanaeth iechyd, wedi cynnal archwiliad annisgwyl o'r uned ar ddiwedd 2013.

Fe ddaethon nhw i'r casgliad fod ysbryd y staff yn isel iawn, bod yna broblemau gyda pherthnasau proffesiynol, pryderon diogelwch, ac amheuon ynglŷn â chymysgu cleifion hŷn ac iau.

Roedd yr adroddiad hefyd yn awgrymu bod angen wardiau ar wahan ar gyfer merched a dynion.

Rhybudd

Mewn ymateb, mae'r bwrdd iechyd wedi argymell lleihau nifer y gwelyau yno dros dro.

Yn ôl y bwrdd, bydd hyn yn "golygu bod mwy o nyrsys fesul claf, yn ei gwneud yn haws gwahanu merched a dynion, a hefyd yn galluogi gwahanu cleifion hŷn a bregus oddi wrth gleifion iechyd meddwl eraill."

Ond mae meddygon yn Uned Hergest yn rhybuddio y gallai'r newidiadau beryglu cleifion. Maen nhw hefyd yn dweud y gallai arwain at drosglwyddo cleifion i'r uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd, ym Modelwyddan.

Mae'r , wedi i un uned gau'n annisgwyl yno ym mis Rhagfyr.

Mae'r meddygon yn dweud y byddai'n well agor ward ychwanegol yn Uned Hergest i ddelio â'r problemau.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn croesawu gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sydd "wedi'n helpu i adnabod ardaloedd penodol lle mae angen gwelliannau yn safon a diogelwch ein gwasanaethau yn Uned Hergest."

"Rydym yn gweithio'n agos gyda staff yr Uned i adnabod sut y gallwn ni weithredu'r gwelliannau yma sydd eu hangen i ateb yr amrywiaeth o faterion sy'n cael eu codi yn yr adroddiad, a sicrhau ein bod yn parhau i gynnig gwasanaethau lleol i bobl y Gogledd Orllewin."

Bydd y newidiadau'n cael eu trafod mewn cyfarfod am 10:00yb ddydd Iau yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol