Â鶹ԼÅÄ

Ymgyrch yn erbyn cynllun tai ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Adeiladu
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad cwmni Morbaine yw codi dros 350 o dai

Mae trigolion ardal Bangor wedi dechrau deiseb ar-lein er mwyn gwrthwynebu cynllun i adeiladu dros 350 o dai.

Mae'r gwrthwynebwyr hefyd wedi dechrau tudalen Facebook er mwyn hybu eu hymgyrch.

Eisoes cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal er mwyn trafod cynllun cwmni n Morbaine i godi 366 o dai mewn caeau a adnabyddir fel Pen-y-Ffridd.

Daw'r cais cynllunio yn sgil cais llwyddiannus tebyg gan gwmni Redrow i godi 245 o dai tu ôl Ffordd Crwys a Ffordd Cynan ym Mhenrhosgarnedd.

Safle sydd ddrws nesaf i Ben-y-Ffridd.

Yn ôl swyddogion cynllunio mae angen 800 o dai yn ardal Bangor dros y blynyddoedd nesaf.

Cred yr ymgyrchwyr fod y tai yn ddiangen.

Maen nhw hefyd yn dadlau nad yw strwythur y ffyrdd yn addas ac na fydd ysgolion lleol yn gallu ymdopi gyda dros 600 o dai ychwanegol rhwng y ddau ddatblygiad.

Mae cynghorydd sir Gwynedd, Elin Walker Jones sy'n cynrychioli ward Glyder yn y ddinas, yn annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal tan ddydd Iau, Rhagfyr 19.

Cwestiwn

Meddai'r cynghorydd Walker-Jones: "Dwi'n sylweddoli bod y tir y tu fewn i'r i'r cynllun datblygu unedol, ond mae'n gwestiwn a ydi'r cynllun yn ymateb i anghenion lleol?

"Mi fydd yn cael effaith ar iaith yr ardal a'r isadeiledd, does yna ddim amheuaeth bydd yn effeithio'r ffyrdd.

"Mae ffyrdd Penrhos yn brysur iawn yn y bore, a hyd yn oed os bydd y mynediad yn mynd i lawr i Ffordd Caernarfon, mae'r ffordd yna yn brysur hefyd.

Meddai Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones: "Mae yna bryderon am gor-ddatblygu oherwydd beth sydd wedi digwydd efo'r safle drws nesaf.

"Y broblem sylfaenol ydi, mae'r tir yma yn rhan o'r cynllun datblygu unedol a hyd yn oed pe bai'r Cyngor yn ei wrthod, y rhagdybiaeth yw, yn y pen draw y bydd yna adeiladu yno.

"Dwi'n cydymdeimlo'n fawr."

Pryderon

Meddai Keith Williams, Rheolwr y datblygiad i Morbaine: "Mae'r tir yma wedi ei roi yn y cynllun datblygu unedol ar gyfer adeiladu tai ac rydym wedi penderfynu rhoi y cais cynllunio i mewn gan ymateb i'r gofyn lleol am dai.

Pan ofynnwyd i Mr Williams, a fyddai'n barod i drafod pryderon lleol gyda thrigolion, dywedodd: "Rydym yn siarad gyda'r awdurdod lleol ar y cais cynllunio yma oherwydd mai cysylltu gyda nhw sy'n briodol."

Dywedodd Cyngor Gwynedd y bydd y cais yn cael ei drafod yn y flwyddyn newydd a does yna ddim penderfyniad wedi cael ei wneud ar y dyddiad eto.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol