Gwella'r M4: "Trawsnewid yr economi"

Ffynhonnell y llun, Mathew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Mae'r M4 yn aml yn dioddef o dagfeydd

Mi fydd y cyhoeddiad y gallai'r gwaith nawr ddechrau ar wella traffordd yr M4 yn cael "impact mawr ar economi De Cymru i gyd."

Dyna farn Elgan Morgan o Siambr Fasnach De Cymru. Mae'r draffordd yn aml yn dioddef o dagfeydd.

Dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron y gallai'r gwaith fwrw ymlaen, yn dilyn ei gyhoeddiad bod Llywodraeth Cymru am gael pwerau benthyg.

Mae'r CBI yng Nghymru hefyd wedi croesawu'r posibilrwydd gan ddweud y gallai'r ffordd liniaru "drawsnewid yr economi."

Datrysiad i dagfeydd

Dywedodd Mr Cameron ddydd Gwener y bydd Llywodraeth Cymru'n derbyn pwerau i fenthyg arian fydd yn eu galluogi i fynd ati i wella'r M4.

"Mae'r ffordd yn droed ar bibell wynt yr economi," meddai, "ac rwyf am i Lywodraeth Cynulliad Cymru weithredu mor fuan ag sydd bosib er mwyn rhoi hwb i'r economi cyn gynted ag y bo modd."

Mae o'n dadlau bod yna achos amgylcheddol dros wella'r ffordd:

"Mae ceir sydd yn ciwio ond ar stop yn achosi fwy o lygredd na thraffig sydd yn symud. Felly mae na achos amgylcheddol dros ddatrys tagfeydd yr M4."

Fe gyhoeddodd o hefyd y bydd mwy o bwerau ariannol yn cael eu datganoli i Gymru gan gynnwys y cyfrifoldeb dros rhai trethi.

Ond mae Carwyn Jones wedi dweud mewn cynhadledd i'r wasg mai "un opsiwn" yw ffordd liniaru'r M4 gan son hefyd am y posibiliad o welliannau i'r A55 a phrosiectau eraill sydd ddim yn ymwneud gyda thrafnidiaeth.

Yn y misoedd dwytha mae 'na drafodaethau wedi bod rhwng y ddwy lywodraeth ynglŷn â'r ffordd ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal ymgynghoriad.

'Cael eu dal rownd Casnewydd'

Wrth siarad ar y Post Cyntaf fore Gwener dywedodd Elgan Morgan ei bod nhw'n clywed yn aml fod cwmnïau yn dioddef oherwydd yr oedi ar yr M4:

"Mae busnesau Casnewydd yn gweud wrthon ni fod nhw'n cael problemau mynd ar y draffordd neu staff yn hwyr i'r gwaith achos damwain ar y draffordd ac yn y blaen.

"Hefyd mae busnesau lawr yn Sir Benfro yn dweud bod nhw'n cael probleme, busnese twristiaeth er enghraifft. Mae pobl sydd yn dod i aros gyda nhw yn troi lan ganol nos achos ma nhw wedi cael eu dala lan rownd Casnewydd."

Effaith niweidiol?

Ond mae na rhai wedi dweud y gallai gynlluniau fel hyn gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.

Un sydd wedi codi cwestiynau yn ei gylch yn y gorffenol yw AC Plaid Cymru Dafydd Ellis-Thomas.

Fis Mehefin dywedodd fod angen canolbwyntio ar wella ffordd yr A48 yn hytrach na ffordd osgoi newydd.

"Gosododd Llywodraeth Cymru'n Un allan gyfres o welliannau fyddai'n dechrau lliniaru'r tagfeydd o gwmpas Casnewydd," meddai.

"Casgliad rhesymegol y gwelliannau hyn fyddai parhau i uwchraddio coridor yr A48 ac ymdrin â thagfa barhaus Brynglas.

"Byddai hyn yn costio llai ac yn cymryd llai o amser i'w gwblhau na Ffordd Liniaru'r M4 a hefyd yn golygu bod mwy o fuddsoddiad dros ben ar gyfer prosiectau trafnidiaeth integredig mewn rhannau eraill o Gymru."

'Potensial i drawsnewid'

Sefydliad sy'n gryf o blaid gwella'r M4 yw'r Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru (CBI).

Mae'r cyhoeddiad fore Gwener yn golygu nad dim ond cynllun amwys ydy hwn rŵan yn ol cyfarwyddwr CBI Cymru Emma Watkins:

"Mae Cymru angen adeiladwaith ffyrdd modern a dibynadwy ac mae'r cyhoeddiad heddiw yn symud ffordd liniaru'r M4 o gynllun i adeiladu.

"Mae'r CBI wedi ymgyrchu ers tro dros ffordd liniaru'r M4. Does gan yr un cynllun arall y potensial i drawsnewid yr economi Gymreig ar gyfer y tymor hir, ac ry'n ni'n cydnabod ymdrechion y llywodraeth wrth wneud hyn.

"Yr M4 yw'r porth i Gymru a bydd y gwelliant hwn yn dod â buddiannau clir i fusnesau a chymudwyr ac yn gwella lleoliad Cymru ar y map byd-eang."

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, Byron Davies mae Gweinidogion Llafur wedi bod yn pwyso ar eu rhwyfau yn rhy hir:

"Mae Gweinidogion Llafur wedi cael sawl cyfle i fuddsoddi a gwneud yn siŵr bod yr M4 yn addas i'w phwrpas a hynny yn ystod cyfnod pan oedd na arian ar gael.

"Ond mae oedi cyson a diffyg arweiniad wedi golygu nad ydyn nhw wedi deliferio rhwydwaith drafnidiaeth ar gyfer yr 21ain ganrif.

"Rydyn ni wrth ein boddau bod llywodraeth Geidwadol yn gweithredu pan na wnaeth Llafur er mwyn sicrhau y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar y prosiect yma o'r diwedd."