Â鶹ԼÅÄ

Galw am gynyddu nifer Aelodau Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Richard Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Richard Wyn Jones yw cadeirydd Undeb Sy'n Newid

Dylai nifer yr Aelodau Cynulliad gael ei gynyddu o 60 i 100 - dyna yw casgliad adroddiad newydd ar faint y Cynulliad.

Adroddiad ar y cyd rhwng Undeb Sy'n Newid a Chymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yw 'Mae Maint yn Cyfri' ac mae'r awduron yn ei ddisgrifio fel yr ymchwiliad trylwyr cyntaf i'r mater.

Mae'n dadlau nad yw'r nifer presennol o ACau yn ddigonol er mwyn cyflawni'r gwaith o graffu ar waith Lywodraeth Cymru mewn modd priodol.

Dywed yr adroddiad bod nifer yr aelodau sydd yn y Cynulliad yn fach iawn o'i gymharu gyda chyrff eraill o amgylch y byd sy'n gwneud gwaith tebyg.

'Gorymestyn'

Yn 2004 fe wnaeth argymell cynyddu'r nifer o ACau o 60 i 80 pan ac os fyddai'r Cynulliad yn derbyn y pwerau i greu deddfau ei hunain.

Dyw hyn heb ddigwydd ac mae'r adroddiad diweddaraf yn dadlau bod aelodau wedi eu "gorymestyn yn sylweddol" o ganlyniad i hyn, a bod hynny yn effeithio ar eu gallu i wneud eu gwaith.

Gan fod 10 AC yng nghabinet y Prif Weinidog Carwyn Jones, tri aelod Llafur yn gwneud gwaith dirprwyo ac aelodau eraill yn ymwneud â swyddi eraill, mae'r adroddiad yn dweud mai dim ond 42 aelod sydd ar gael i graffu ar waith y llywodraeth.

Dyw hyn ddim yn ddigon yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, sy'n gadeirydd ar y prosiect Undeb Sy'n Newid ac yn rhedeg Canolfan Llywodraethant Cymru.

"Nid yn unig fod craffu addas yn hanfodol ar gyfer cymdeithas ddemocrataidd iach, mae hefyd yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau llywodraeth effeithiol a chost-effeithlon," meddai.

"Dim ond ychydig o sylwebwyr difrifol fyddai'n dadlau fod ychydig dros 40 o ACau meinciau cefn yn ddigon i wneud y swydd honno'n effeithiol..."

'Yn amlwg rhy fach'

Ond mae'r Athro Jones yn cydnabod nad yw dwyn perswâd ar bobl bod angen mwy o wleidyddion yn beth hawdd i'w wneud.

"Er ei fod yn anodd gwneud yr achos ar gyfer cael mwy o wleidyddion, rydym yn credu mai nawr yw'r amser i wynebu her anodd ac i gael dadl aeddfed wedi ei seilio ar dystiolaeth ar gyfer cynyddu maint Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Efallai nad yw'n beth cyfleus na phoblogaidd i ddweud, ond mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn amlwg rhy fach i wneud ei swyddogaeth yn effeithiol.

"Mae cynyddu'r nifer i 100 yn rhan hollbwysig o'r broses fydd yn rhoi datganoli Cymreig ar sefydliad cadarn."

'Gwerth am arian'

Dywedodd cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Stephen Brooks: "Gyda mwy a mwy o bwerau'n cael eu datganoli mae'r effaith mae'r Cynulliad yn ei gael ar ein bywydau wedi cynyddu'n aruthrol ers 1999.

"Mae'r Cynulliad bellach yn rheoli cyllideb o bron i £15 biliwn ac yn gallu deddfu ym meysydd iechyd, addysg, trafnidiaeth ac mae cynnig gerbron nawr i roi pwerau dros dreth incwm iddo.

"Y perygl yw, heb Gynulliad mwy bydd deddfau ar faterion fel rhoi organau, taro plant a threth yn cael eu cymeradwyo heb gael eu craffu'n iawn.

"Mae democratiaeth yn broses sydd raid talu amdani ac mae'r trethdalwyr yn disgwyl gweld gwerth am arian."

'Mwy o graffu'

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddai'n addas iddyn nhw wneud sylw ar be fyddai oblygiadau cynyddu maint y Cynulliad tra mae Comisiwn Silk yn parhau i gasglu tystiolaeth ar ei bwerau.

Dywedodd y Ceidwadwyr nad yw'r amser yn gywir ar gyfer cynyddu nifer yr aelodau.

"Byddai creu swyddi i wleidyddion yn cael ei gwestiynu, a hynny'n gywir, gan y cyhoedd yn ystod amser sy'n parhau i fod yn heriol i economi Cymru," meddai llefarydd ar eu rhan.

"Beth sydd ei angen yw mwy o graffu ar ddeddfwriaeth, gwell cysylltiad gyda'r cyhoedd a sesiynau Cynulliad sy'n hirach ac yn ymwneud mwy a materion cyfoes."

Ond mae Plaid Cymru wedi croesawu'r argymhellion yr adroddiad.

'Gwella atebolrwydd'

Dywedodd Simon Thomas, sy'n cynrychioli'r blaid yng nghanolbarth a gorllewin Cymru: "Os ydych yn cymharu Cymru â gwledydd a rhanbarthau datganoledig mewn llefydd fel yr Almaen, Awstralia a Chanada, mae'n dod yn amlwg mai nifer fechan o wleidyddion sydd yn craffu ar Lywodraeth Cymru.

"Nid yw hyn yn dda i ddemocratiaeth yng Nghymru, a dyna pam fod Plaid Cymru wedi cefnogi argymhellion blaenorol i gynyddu nifer yr ACau i wella atebolrwydd."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud eu bod nhw'n cytuno gyda chynyddu nifer yr ACau, ond i 80 yn hytrach na 100 yn unol ag argymhellion y Comisiwn Richard.

Dywedodd Eluned Parrott: "Ar gyfer pob gwrthblaid, dim ond un neu ddau o'i haelodau sy'n eistedd ar y pwyllgor sy'n craffu ar bob darn o ddeddfwriaeth.

"Pan fyddwch yn ystyried yr effaith cyfreithiau megis y Mesur Trawsblannu Dynol neu'r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol, dau ddarn mawr a chymhleth o ddeddfwriaeth, mae'n dod yn amlwg bod nad yw 60 o ACau yn unig yn ddigon."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol