Â鶹ԼÅÄ

Economi: Cymru i danberffomio tan 2020

  • Cyhoeddwyd
arianFfynhonnell y llun, SPL

Mae sefydliad ymchwil economaidd rhyngwladol - Capital Economics - yn darogan y bydd Cymru'n un o'r rhannau lleiaf llwyddiannus yn y DU tan 2015.

Mewn adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi, mae'r cwmni'n dweud bod y DU yn ei chyfanrwydd yn gweld peth twf economaidd, nid yw'r rhagolygon yn dda ar gyfer swyddi na llewyrch yng Nghymru.

Mae'r ddogfen yn dweud y bydd y DU gyfan yn mwynhau rhywfaint o adfywiad economaidd tan 2020, ond bod y bwlch rhwng yr amryw ranbarthau yn debyg o dyfu yn hytrach na chrebachu.

Dywed yr adroddiad mai yng Nghymru y bydd y twf lleiaf mewn GDP y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn ganlynol, ac yma hefyd y bydd y cynnydd lleiaf mewn cyflogaeth.

Yn bwysicach efallai, mae'r adroddiad yn rhagweld na fydd economi Cymru yn llwyddo i ennill twf sylweddol am weddill y ddegawd - cyfnod lle mae disgwyl i'r DU ddal i fyny gyda cholledion y blynyddoedd diweddar.

Maen nhw'n disgwyl twf blynyddol o 2.7% ar gyfartaledd yng Nghymru am y cyfnod pwysig rhwng 2015-2020 o gymharu â ffigwr o 3.8% ar draws y DU.

Dywed yr adroddiad: "Mae Cymru wedi dod yn ddibynnol iawn ar fewnfuddsoddiad mawr, ac er bod hynny'n bwysig nid yw wedi creu digon yn nhermau cadwynau cyflenwi a chwmnïau gwasanaethau busnes... i roi dynamiaeth ei hun i economi Cymru."

Roedd yr adroddiad yn cydnabod fod gan Gymru bresenoldeb ymysg y diwydiannau pwysig mewn sectorau sy'n tyfu megis awyrennau, ceir a dur.

Y diwydiant dur sy'n gyfrifol am tua 20% o weithgynhyrchu yng Nghymru, ac mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod risg y bydd un ffatri ddur mawr yn cau rhywbryd.

Er bod yr adroddiad yn amlygu gwendidau, dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod hefyd yn dangos y gwelliannau yn economi Cymru.

"Ers datganoli nid yn unig ydym ni wedi gweld gwell twf mewn cyflogaeth yng Nghymru na Lloegr, ond yng Nghymru mae twf mwy mewn cyflogaeth yn y sector breifat, a llai yn y sector gyhoeddus," meddai llefarydd.

"Er toriadau i'n cyllideb gan Llywodraeth y DU, mae ein ffocws ar hybu twf economaidd a chreu swyddi o safon yng Nghymru."

At bwrpas yr adroddiad mae Capital Economics wedi rhannu'r DU i 12 rhanbarth. Dim ond tri y maen nhw'n disgwyl i berfformio'n well na'r cyfartaledd ar gyfer y DU, sef Llundain, y De-ddwyrain a Dwyrain Lloegr.

Gogledd Iwerddon a Chymru yw'r ddau sydd ar waelod y rhestr.