Â鶹ԼÅÄ

Gweinidog i gyhoeddi gwariant isadeiledd

  • Cyhoeddwyd
Jane Hutt
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl cyhoeddiad Jane Hutt am tua 8:30am ddydd Mercher

Bydd Llywodraeth Cymru yn datgelu ei chynlluniau i wario dros £600 miliwn ar gynlluniau isadeiledd yn ddiweddarach dydd Mercher.

Fe fydd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn troi ei sylw at wariant cyfalaf y llywodraeth, sef gwariant ar adeiladau ysgolion a phrosiectau mawr eraill sydd, yn ôl y llywodraeth, yn hanfodol er mwyn sicrhau twf yr economi.

Bydd yn cyhoeddi £552 miliwn o arian newydd i'w fuddsoddi mewn isadeiledd dros 2014-15 a 2015-16, ac fe fydd hefyd swm ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol - 2013-14 - i fynd â'r cyfanswm heibio £600 miliwn.

Daw'r cyhoeddiad cwta 24 awr wedi cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a welodd doriad o bron £100 miliwn o'r awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae'r cynghorau'n parhau i fod yn anesmwyth am hynny gan ei fod yn debyg o arwain ar gwtogi pellach ar wasanaethau a chynnydd posib yn y bil treth cyngor.

Fe fydd gwariant ar lywodraeth leol yn disgyn o £4.648 biliwn eleni i £4.466 biliwn y flwyddyn nesaf - toriad o 5.81% mewn termau real.

'Effaith anferthol'

Fe fydd cyllidebau'r cynghorau oddeutu 9% yn is mewn termau real rhwng nawr a 2015-16.

Dywedodd Steve Thomas, prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y byddai'r toriadau yn effeithio ar wasanaethau.

Dywedodd: "Mae'n gyllideb anodd a dyma £175 miliwn yn dod allan o wasanaethau cynghorau.

"Fedrwn ni ddim parhau i ddarparu'r ystod o wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd, felly fe fydd yn cael effaith ar bethau fel gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, casglu sbwriel a chyflwr ein ffyrdd.

"Rydym yn gyfrifol am rywbeth tebyg i 735 o wasanaethau, felly fe fydd effaith anferthol i'r cyhoedd yng Nghymru."

Fe allai sefyllfa'r arian cyfalaf newid yng ngwanwyn 2014 pan mae disgwyl i lywodraeth San Steffan gyhoeddi eu hymateb i argymhellion Comisiwn Silk ar ddatganoli pwerau i Fae Caerdydd.

Un o'r argymhellion yw y dylid datganoli treth stamp i Lywodraeth Cymru. Byddai hynny'n ei galluogi i fenthyca arian ychwanegol ar gyfer prosiectau cyfalaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol