Cyfri'r Ceiniogau

  • Awdur, Vaughan Roderick
  • Swydd, Golygydd Materion Cymreig y Â鶹ԼÅÄ

Dyna ni felly. Mae'r gyllideb ddrafft wedi ei chyhoeddi ac am y tro cyntaf yn y cynulliad hwn fydd 'na ddim drama ynghylch ei chymeradwyo.

Gyda Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cytuno i ymatal yn y bleidlais allweddol gall adrannau'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ddechrau cynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gan wybod yn fras beth yw eu tynged.

Mae 'na ragor o fanylion i ddod ond rydym yn gwybod digon yn barod i allu barnu pwy yw'r buddugwyr a phwy fydd ar eu colled ar ddiwedd gem gyllidebol 2013.

Ar eu hennill

Heb os yr enillydd mawr yn y gyllideb yw'r Gwasanaeth Iechyd. Fe fydd y gwasanaeth yn derbyn £570 miliwn ychwanegol dros gyfnod o dair blynedd. Ydy hynny'n ddigon i gwrdd â'r galw? Nac ydy. Does 'na byth ddigon o arian i gwrdd â'r galw - ond ar ôl blynyddoedd o doriadau yn nhermau real fe fydd na ambell ochenaid o ryddhad yn ystafelloedd bwrdd y byrddau iechyd.

Hefyd ar ei hennill - neu o leiaf ar lai o golled na'r disgwyl, mae cynllun "Cefnogi Pobl". Cynllun yw hwn sy'n rhoi cymorth i bobl digartref neu sydd mewn peryg o fynd yn ddigartref. Roedd 'na ddarogan y byddai'r cynllun yn wynebu toriadau o oddeutu 5%. Ar ôl lobio grymus fel rhan o'r cytundeb rhwng Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol daethpwyd o hyn i 35.5 miliwn i leddfu ar y toriad.

Dau enillydd arall yw Leanne Wood a Kirsty Williams. Profodd eu penderfyniad i gydweithio er mwyn rhwystro'r Llywodraeth rhag chwarae'n naill blaid yn erbyn y llall yn dacteg effeithiol gyda'r ddwy blaid ar ei hennill.

Ar eu colled

Does dim dwywaith taw Llywodraeth Leol sy'n mynd i deimlo'r boen fwyaf dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r Cynghorau yn wyneb toriadau o naw y cant dros y ddwy flynedd nesaf ar ôl cymryd chwyddiant i ystyriaeth.

Gan fod llawer o'r arian y mae cynghorau'n derbyn eisoes wedi ei glustnodi ar gyfer pethau gwasanaethau gofal a'r ysgolion bydd dim dewis ond colbio pethau fel y gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a'r celfyddydau.

Un gair o gyngor. Mae'n cymryd peth amser i fynd trwy'r gyllideb a chrib man. Argraffiadau cyntaf yw'r uchod. Efallai y bydd gennyf ragor i ddweud.