Cyllideb: £570m yn fwy i iechyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwario £570 miliwn yn fwy ar iechyd dros y tair blynedd nesaf.

Ond mae llywodraeth leol yn wynebu toriadau.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt bod y gyllideb yn un "gyfrifol a theg".

Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu penderfyniad Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddod i gytundeb gyda'r llywodraeth sy'n golygu y bydd y gyllideb yn cael ei chymeradwyo adeg y bleidlais ym mis Rhagfyr.

Gwario mwy ar iechyd

Roedd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn cyhoeddi manylion ar gyfer 2014-15.

Mae'r llywodraeth yn penderfynu bob blwyddyn sut maen nhw'n bwriadu gwario'r arian mae San Steffan yn ei roi iddyn nhw redeg y gwasanaethau datganoledig yng Nghymru.

Bydd £150m o hynny'n cael ei wario ar iechyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gyda £180m ychwanegol yn cael ei wario yn 2014-15 a £240m y flwyddyn wedyn.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt fod yr arian ychwanegol ar gyfer iechyd yn cael ei wario yn sgil canfyddiadau Ymchwiliad Francis i fethiannau yn Ysbyty Stafford.

Ond mae awdurdodau lleol yn wynebu toriadau o £182m y flwyddyn nesaf.

Bydd yr arian maent yn ei dderbyn yn lleihau o'r £4.648 biliwn wnaethon nhw dderbyn eleni i £4.466bn ar gyfer y flwyddyn nesaf - toriad o 3.91%.

Pan mae effeithiau chwyddiant yn cael eu hystyried, mae hyn yn cyfateb i doriad o 5.81%.

'Safiad dros Gymru'

Dywedodd Jane Hutt: "Mae hon yn gyllideb deg a chyfrifol sy'n cyflawni'n blaenoriaethau ar gyfer Cymru, gan gadw at ein hegwyddorion a gwneud safiad dros Gymru.

"Ers 2010, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud toriadau digynsail i gyllideb Cymru. Ni allwn amddiffyn pob gwasanaeth rhag effeithiau toriadau Llywodraeth y DU a'r goblygiadau o flaenoriaethu gwariant.

"Mae pob penderfyniad sydd o'n blaen yn anodd. Does dim atebion hawdd. Mae'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n flaenoriaeth i ni yn wynebu heriau newydd.

"Mae cynnydd mewn galw, cynnydd mewn cost a phwysau sy'n codi'n uniongyrchol o ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU yn brathu."

'Llywodraeth sydd yn methu'

Yn gynharach yn y dydd roedd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi cytundeb gwerth £100m gyda'r llywodraeth.

Bydd y ddwy blaid yn ymatal rhag pleidleisio ar y gyllideb lawn ym mis Rhagfyr, a bydd hynny yn ei dro yn golygu bod y gyllideb yn cael ei chymeradwyo.

Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r cytundeb hwn.

Dywedodd Paul Davies fod y gwrthbleidiau eraill wedi "dangos eu llaw cyn i'r llywodraeth ddelio'r cardiau" a'u bod yn cefnogi "llywodraeth Lafur sydd yn methu".

Ychwanegodd: "Mae'r fargen hon yn dangos mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig ddewis arall i'r consensws sosialaidd a ni yw'r unig rai sy'n hybu gwasanaeth iechyd sydd wir yn cael ei chyllido'n deg."

Roedd Mr Davies yn feirniadol hefyd o'r gyllideb ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

"Gan ystyried hanes Llafur o hud a lledrith yn ei chyllidebau, mae angen craffu ar yr honiadau o arian ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd yn ofalus.

"Yr unig beth ydyn nhw yw deilen ffigys ar gyfer cydnabyddiaeth Llafur eu bod nhw wedi llwgu'r gwasanaeth iechyd o arian, gan adael cleifion a staff i lawr."

Y cytundeb

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ei bod hi'n falch o'r cytundeb rhwng ei phlaid hi, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r llywodraeth.

"Mae Plaid Cymru yn cydnabod bod hon yn gyllideb anodd," meddai.

"Dyw'r sefyllfa lle nad oes gan Gymru reolaeth ar yr arian sy'n cael ei godi a'i wario yma ddim yn gynaliadwy."

Dywedodd Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol ei fod yn falch fod ei blaid wedi llwyddo i sicrhau cytundeb o flaen llaw.

"Mae'n golygu bod modd craffu ar ein cynigion ni law yn llaw gyda rhai'r llywodraeth."

O'r £100m yn y cytundeb rhwng y llywodraeth, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, bydd £65m yn cael ei wario ar brosiectau iechyd a £35m ar gynyddu grantiau mae ysgolion yn eu derbyn ar gyfer pobl disgybl sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru