Â鶹ԼÅÄ

Hanes: Pwnc gorfodol?

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr adroddiad bod angen i ysgolion ddysgu mwy o hanes Cymru

Dylai hanes fod yn bwnc sy'n cael ei ddysgu am gyfnod hirach yn yr ysgol, yn ôl adroddiad grŵp adolygu annibynnol.

Cafodd y grŵp o dan gadeiryddiaeth yr hanesydd Dr Elin Jones ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn edrych ar sut y mae hanes Cymru yn cael ei ddysgu.

Mae'r grŵp wedi ystyried sut y dylai'r Cwricwlwm Cymreig ddatblygu.

Cafodd y cwricwlwm ei ffurfio yn 1988 a'r nod oedd adlewyrchu bywyd Cymru ar draws y pynciau addysgol, yr elfennau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol.

TGAU Hanes

Un o'r argymhellion yn yr adroddiad ydy bod hanes yn un o'r pynciau gorfodol i ddisgyblion sy'n gwneud eu harholiadau TGAU.

Dywed yr adroddiad: "Y bwriad gwreiddiol wrth lunio'r cwricwlwm cenedlaethol oedd sicrhau bod hanes yn bwnc gorfodol yng Nghyfnod Allweddol 4 hefyd.

"Barn y tasglu yw y dylid ystyried a oes modd adfer y syniad hwn, efallai i gychwyn drwy gryfhau'r elfen hanesyddol yn y Fagloriaeth Gymreig.

"Nid yw rhoi'r gorau i hanes yn 14 oed yn fodd i ddatblygu gwell ddealltwriaeth o hanes ymhlith pobl ifanc Cymru.

"Byddai cynyddu'r elfen o hanes yn y fagloriaeth yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu dealltwriaeth a'u sgiliau hanesyddol ... a'u cymhwyso i gyd-destun ehangach na phwnc arholiad yn unig."

Mwy o hanes Cymru

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod athrawon yn tueddu i ddysgu fersiwn o hanes Prydain mewn ysgolion ac mai hanes Lloegr yn aml yw hwn.

Ond fe ddylai Hanes TGAU gynnwys "elfen integredig a gorfodol o hanes Cymru," medd y ddogfen.

Argymhelliad arall yn yr adroddiad yw y dylai'r cwricwlwm newydd barhau i gael ei ddysgu ar draws pob pwnc ac nid o fewn hanes yn unig.

Dywed yr adroddiad: "Tra bod rhai ysgolion yn llwyddo i roi dimensiwn Cymreig i bob pwnc, a hynny mewn ffordd addas, integredig, mae nifer o ysgolion yn ei:

* gyfyngu i rai pynciau'n unig, er enghraifft y Gymraeg fel pwnc, y celfyddydau (megis cerddoriaeth a chelf) a hanes;

*ei drin fel atodiad i'r rhaglenni astudio "go iawn," gan lunio cynlluniau gwaith yn gyntaf ac ychwanegu rhyw elfennau o'r Cwricwlwm Cymreig wedyn."

Persbectif Cymreig

Dywed yr adroddiad hefyd fod angen rhoi'r adnoddau iawn i athrawon fedru integreiddio'r persbectif Cymreig i bynciau'r cwricwlwm ac y dylai pob cymhwyster a gynigir yng Nghymru adlewyrchu persbectif Cymreig pan fo hynny'n addas.

Mae'r ddogfen yn nodi y dylid penodi pwyllgor o arbenigwyr hanes i argymell adnoddau newydd allai gael eu datblygu ac i rannu arfer da mewn ysgolion.

Wrth ymateb i 'r adroddiad, mae'r Ceidwadwyr wedi rhybuddio'r llywodraeth i beidio â dysgu hanes fel pwnc unigol ar ei ben ei hun ac wedi dweud ei bod hi'n bwysig dysgu am hanes y byd nid yn unig hanes Cymru.

Bydd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn pwyso a mesur yr argymhellion cyn cyhoeddi ei ymateb.