Â鶹ԼÅÄ

Canslo Gwobrau Gwir Flas fel rhan o ailwampio strategaeth

  • Cyhoeddwyd
Cig eidion CymreigFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae cig eidion Cymreig yn cael ei werthu ar draws y byd

Bydd 'na newid cyfeiriad yn y broses o hyrwyddo bwyd yng Nghymru, wrth i strategaeth gan Lywodraeth Cymru ddod i ben.

Yn ôl y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies, dyw rhaglen 'Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru' ddim yn addas bellach.

Cafodd y strategaeth ei sefydlu gan y llywodraeth glymblaid rhwng y Llafur a Phlaid Cymru.

Maent yn dweud y byddan nhw'n ymgynghori ar gynlluniau newydd yn yr hydref.

Bydd y brand Gwir Flas hefyd yn cael ei adolygu ac mae'r Gwobrau Gwir Flas wedi cael eu canslo eleni.

'Anghenion y diwydiant'

Meddai Mr Davies: "Mae'n 10 mlynedd bellach ers cyflwyno Gwir Flas; mae'r diwydiant wedi datblygu a thyfu'n sylweddol ers hynny ac mae'n briodol adolygu Gwir Flas i weld a yw'n parhau i gwrdd ag anghenion y diwydiant a defnyddwyr nawr ac yn y dyfodol.

"Rwyf eisiau sicrhau fod hunaniaeth a hyrwyddiad bwyd a diod Cymreig yn parhau i gwrdd ag anghenion y diwydiant wrth iddo fynd o nerth i nerth ac rwyf eisiau clywed barn cynhyrchwyr a defnyddwyr...

"Byddaf yn ymgynghori yn yr hydref ar ddatblygu'r sector bwyd yng Nghymru, pan fyddaf yn amlinellu fy Nghynllun Bwyd, fydd yn adeiladu ar argymhellion y Panel Sector.

"Er mwyn creu cyfle newydd i gynhyrchwyr a phrynwyr rwydweithio byddaf yn sefydlu Digwyddiad Bwyd a Diod Cymreig newydd, fydd yn ddathliad o'n cynnyrch ac yn rhywbeth mae cynhyrchwyr bwyd wedi bod yn galw amdano.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i annog datblygiad a thwf y sector bwyd, sector sy'n hollbwysig i'r economi, ac sydd hefyd yn adlewyrchu ein diwylliant, hanes a'n hunaniaeth...Rwy'n hynod ymwybodol fod angen i ni barhau i hybu twf yn y sector ac er mwyn cyflawni hyn mae'n bwysig dathlu a hyrwyddo bwyd a diod o Gymru nid yn unig yma, ond tu hwnt i Gymru."

'Catalydd economaidd'

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brand Gwir Flas hefyd yn cael ei adolygu ac mae'r gwobrau blynyddol wedi'u canslo eleni

Ond wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mercher, dywedodd llefarydd amaeth Plaid Cymru LlÅ·r Huws Gruffydd, ei fod yn pryderu bod y gweinidog yn rhuthro i gyflwyno newidiadau.

"Dwi yn pitio bod y llywodraeth ddim wedi rhoi mwy o gyfle i'r strategaeth bresennol i weithio'n iawn. Mae'n strategaeth 10 mlynedd i fod o 2010.

"Mae bwyd, wrth gwrs, yn gatalydd economaidd pwysig iawn i Gymru - mae'r gadwyn fwyd gyflawn yn gyfrifol am bron i 230,000 o swyddi yng Nghymru.

"Mae hefyd yn cael effaith ar iechyd ac yn elfen bwysig o frand twristiaeth Cymru."

'Oscars y byd bwyd'

Ychwanegodd ei fod yn credu y dylai Alun Davies fod wedi ymgynghori cyn cyhoeddi ei fwriad.

Meddai Mr Gruffydd: "Mae'n eironig braidd bod y gweinidog yn dweud bod y pethau 'ma yn mynd i ddod i ben - dim gwobrau Gwir Flas eleni - ac wedyn, wrth gwrs, yn dweud ei fod yn ymgynghori. Oni ddylai ymgynghori gynta' mewn gwirionedd?

"Dwi'n meddwl byddai colli Gwobrau Gwir Flas yn golled - maen nhw'n cael eu hadnabod fel Oscars y byd bwyd yng Nghymru ac wedi bod yn hwb sylweddol iawn i nifer o fusnesau.

"Mae'n bwysig amddiffyn yr elfennau sydd wedi llwyddo, wrth gwrs, a pharhau i fod yn feddwl agored."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol