Problem fisa i gystadleuwyr Llangollen

Disgrifiad o'r llun, Mae'r eisteddfod yn cychwyn pob blwyddyn gyda gorymdaith trwy ganol tref Llangollen

Fydd 'na ddim cynrychiolaeth o Dwrci yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen oherwydd bod nifer o grwpiau a oedd yn gobeithio cystadlu wedi methu â chael fisa.

Mae tua hanner y cystadleuwyr o India yn yr un sefyllfa, gan gynnwys un grŵp sydd wedi teithio i Langollen "ers nifer fawr o flynyddoedd".

Dywedodd cyfarwyddwr yr eisteddfod, Eilir Owen Griffiths, ei bod wedi mynd yn anoddach cael fisas i rai cystadleuwyr, gyda rhai yn tynnu eu henwau'n ôl mor ddiweddar â'r penwythnos diwetha'.

"Rydym yn gwneud popeth posib i geisio eu cael yma - rydym yn gweithio gyda nifer o lysgenhadaethau a'r Asiantaeth Ffiniau," meddai.

Mae nifer o gystadleuwyr wedi cael trafferth gyda fisas dros y blynyddoedd.

Mae'r sefyllfa economaidd fyd-eang hefyd yn parhau yn rhwystr i nifer, er gwaetha'r ffaith fod yr eisteddfod wedi sefydlu cronfa gwerth £30,000 i helpu gyda chostau teithio a llety.

"Dyw'r gronfa yna ddim wedi gwneud cymaint o wahaniaeth ag yr oedden ni'n gobeithio eleni," meddai Mr Griffiths.

"Y flwyddyn nesa', rydym yn gobeithio denu mwy o noddwyr fel y gallwn ni ddod â'r grwpiau yma drosodd. Dyw £30,000 ddim wedi mynd yn bell eleni."