Parc Gelli Aur yn ailagor ar ôl blwyddyn

Disgrifiad o'r llun, Ar un adeg roedd bwriad i droi'r adeilad yn llety i gyn filwyr

Mae Parc Gelli Aur yn Sir Gâr ar agor i'r cyhoedd y penwythnos hwn am y tro cyntaf ers dros flwyddyn.

Gwerthodd y cyngor sir y parc yn gynharach y flwyddyn wedi iddyn nhw benderfynu bod cost atgyweirio'r lle'n rhy ddrud.

Y perchnogion newydd yw Ymddiriedolaeth Gelli Aur ac roedd caniatáu i'r cyhoedd gael mynediad i'r parc yn rhan o'r cytundeb.

Oriel

Mae'r ymddiriedolaeth yn bwriadu defnyddio'r plas fel oriel gelf.

Dyw'r adeilad ei hun na'r gerddi i'r de o'r fynedfa ddim yn agored oherwydd gwaith atgyweirio.

Yn ôl aelod o'r ymddiriedolaeth Richard Salmon, rhan gyntaf y prosiect fydd ailwampio caffi a thŷ bwyta'r parc gan fod y ddau wedi bod yn boblogaidd.

"Mae'r ymddiriedolaeth wedi addo adfer yn llawn a datblygu beth sy' ar ga'l i'r cyhoedd," meddai.

"Y gobaith yw y bydd mwy o le i'r cyhoedd yn y blynyddoedd nesa'."

Cafodd y parc ei sefydlu yn 1560. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg prynodd teulu Cawdor y lle a chreu'r gerddi, yr ardd goed a'r ystafelloedd te.

Campws

Yn ystod yr ugeinfed ganrif roedd y plas yn llety ar gyfer milwyr America, yn swyddfa ar gyfer y cyngor ac yn gampws Coleg Sir Gâr.

Ond mae'r adeilad wedi dirywio'n ddiweddar.

Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, aelod hamdden y bwrdd gweithredol: "Gyda'r heriau ariannol a wynebwn fel awdurdod lleol rydym yn falch iawn fod canlyniad hapus yn sgil y ffaith bod ein prydles yn dod i ben.

"Mae'r awdurdod yn ddiolchgar i'r ymddiriedolaeth am gael y rhagwelediad a'r uchelgais i gynnal a, gobeithio, wella mynediad i'r cyhoedd ar gyfer Gelli Aur.

"Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y cyfleusterau gwych yn datblygu."