Â鶹ԼÅÄ

Papur newydd i bobol Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Papurau newyddFfynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ news grab
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 20,000 o gopiau o The Pembrokeshire Herald yn cael eu hargraffu

Yr angen cynyddol i glywed lleisiau trigolion lleol yw'r rheswm pam fod papur newydd yn dechrau cael ei argraffu yn Sir Benfro yn ôl y Golygydd.

Mae Bruce Sinclair yn cydnabod bod cychwyn The Pembrokeshire Herald mewn cyfnod economaidd anodd yn mynd i fod yn her ond mae'n gobeithio y gall y papur lwyddo:

"Fe ellid dweud bod dechrau papur newydd sbon annibynnol yn gam dewr mewn cyfnod economaidd ansicr. Ond mi rydyn ni yn yr Herald yn gweld yr angen i glywed lleisiau pobl ar draws y sir yn Sir Benfro."

Yr un criw sydd wedi bod yn cynhyrchu'r cylchgrawn misol Pembrokeshire's Best ers 2011 sydd wrthi ac mi fydd y papur yn cael ei gyhoeddi yn wythnosol.

'Caffaeliad pwysig'

Bydd yn costio 50 ceiniog a bydd 20,000 o gopïau yn cael eu hargraffu a'u dosbarthu i'r prif archfarchnadoedd a siopau yn yr ardal.

Dywedodd Tom Sinclair, y Rheolwr Gyfarwyddwr y bydd y profiad gyda'r cylchgrawn o fudd i'r newyddiadurwyr ar gyfer y papur: "Mae gweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ar y cylchgrawn Pembrokeshire's Best a'i ddosbarthu i 45,000 o dai wedi rhoi'r cysylltiadau, yr hyder a'r profiad i'r cwmni i sicrhau y bydd argraffiad cyntaf y papur yma yn un llwyddiannus.

"Byddwn yn gweithio yn galed i wneud yn siŵr bod The Herald yn dod yn gaffaeliad pwysig i bobl Sir Benfro."

Y bwriad yw cynrychioli newyddion gan gymunedau ar draws y sir ac maent yn dweud na fydd yna unrhyw duedd gwleidyddol. Dywedodd y Golygydd Bruce Sinclair:

"Fe fyddwn i yn gohebu ar y materion tanbaid lleol fydd yn codi, achosion llys, penderfyniadau a thrafodaethau gan y llywodraeth leol, ffermio, busnes, straeon adloniant, digwyddiadau ond hefyd straeon dyddiol pobl Sir Benfro.

"Byddwn i yn croesawu straeon gan bawb yn y sir ac yn rhoi cyfle teg i bawb gael dweud ei dweud ar faterion mawr a bach sydd yn effeithio eu bywydau bob dydd."