Â鶹ԼÅÄ

Isgadeirydd yn ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Betsi CadwaladrFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Y bwrdd iechyd yw'r mwya' yng Nghymru - mae'n gwario dros biliwn o bunnoedd y flwyddyn ac yn cyflogi 16,500 o staff.

Mae bwrdd iechyd wedi cyhoeddi bod isgadeirydd wedi ymddiswyddo.

Dr Lyndon Miles oedd Isgadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yr wythnos ddiwetha' camodd cadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd, yr Athro Merfyn Jones a Mary Burrows, o'r neilltu yn sgil adroddiad beirniadol.

Fe wnaeth ymchwil ddarganfod "methiannau rheoli sylweddol" o fewn y bwrdd iechyd a bod hynny'n rhoi iechyd cleifion mewn perygl.

Hwn oedd y tro cyntaf i Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru gydweithio wrth ymchwilio i broblemau mewn corff iechyd.

Y bwrdd iechyd yw'r mwya' yng Nghymru - mae'n gwario dros biliwn o bunnoedd y flwyddyn ac yn cyflogi 16,500 o staff.