Betsi: Penaethiaid yn camu o'r neilltu

Disgrifiad o'r llun, Mae'r adroddiad yn dweud bod problem gyda arweinyddiaeth y bwrdd iechyd

Mae cadeirydd a phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn camu o'r neilltu wedi cyhoeddiad adroddiad beirniadol.

Fe wnaeth ymchwil ddarganfod "methiannau rheoli sylweddol" o fewn y bwrdd iechyd a bod hynny'n rhoi iechyd cleifion mewn perygl.

Bydd yr Athro Merfyn Jones yn rhoi'r gorau i'w swydd fel cadeirydd mor fuan â phosib wedi i'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford dderbyn ei lythyr ymddiswyddo - mae manylion ymadawiad y prif weithredwr Mary Burrows yn cael eu hystyried.

Dywedodd yr Athro Jones ei bod hi'n "briodol" iddo ymddiswyddo oherwydd yr hyn mae'r adroddiad wedi ei ddarganfod, sef nad oedd o a Ms Burrows yn gallu gweithio gyda'i gilydd.

'Cyfaddawdu'

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw'r mwyaf yng Nghymru - mae'n gwario dros biliwn o bunnoedd y flwyddyn ac yn cyflogi 16,500 o staff.

Cafodd BIPBC ei sefydlu yn 2009 ac mae'n gyfrifol am redeg gwasanaethau iechyd ar draws chwe sir yng ngogledd Cymru - o ddoctoriaid teulu i wasanaethau mewn ysbytai.

Mae'r adroddiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn dweud bod arweinyddiaeth o fewn y bwrdd iechyd wedi ei "gyfaddawdu".

Mae'n dweud bod y pryder mwyaf yn ymwneud a'r 22 aelod o'r bwrdd ei hun.

Doctoriaid sy'n gweithio o fewn y bwrdd iechyd yw'r rhan fwyaf o aelodau ac mae 10 aelod annibynnol hefyd sy'n cael eu penodi o'r gymuned.

Y bwrdd hwn sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau fel sut y dylai arian gael ei wario ac mae disgwyl iddyn nhw ddarparu arweinyddiaeth gref mewn cysylltiad â safon gofal a diogelwch cleifion.

Fe wnaeth ymchwilwyr ddarganfod nad oedd uwch reolwyr yn rheoli'r ymateb i broblemau mawr, fel achosion o heintiau fel C Difficile ar wardiau ysbyty.

Maen nhw'n dweud bod y bwrdd iechyd mewn "sefyllfa anodd eithriadol" oherwydd methiant yr Athro Jones a Ms Burrows i weithio gyda'i gilydd.

'Anodd iawn, iawn'

Mater arall sy'n cael sylw yn yr adroddiad yw nad oes gan reolwyr gynlluniau clir ynglŷn â pha wasanaethau ysbyty fydd angen cael eu torri neu eu had-drefnu yn sgil arbedion ariannol.

Dywed yr adroddiad: "Mae'r sefyllfa ariannol yn y tymor canolig yn anodd iawn, iawn, ac nid yw model gwasanaethau presennol y Bwrdd Iechyd yn gynaliadwy'n ariannol nac yn glinigol."

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at achos lle gwnaeth yr anawsterau adweinyddol gynyddu tuag at y risg i gleifion.

Pan ddarganfyddwyr achosion o C Difficile yn Ysbyty Glan Clwyd ym Mai 2013, fe wnaeth "strwythur cyfundrefnol y bwrdd iechyd" gyfrannu at "risgiau arwyddocaol".

"Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r bwlch rhwng y ward a'r Bwrdd", meddai'r adroddiad, "fel y dangosir gan y ffordd mae'n ymdrin â materion yn ymwneud â rheoli heintiau C Difficile".

Yn ymateb i'r adroddiad, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud y bydd y diffygion yn cael eu hystyried yn llawn ac y bydden yn "ymdrin ag argymhellion yr adroddiad fel blaenoriaeth".

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, Yr Athro Merfyn Jones: "Dan yr amgylchiadau, credaf ei bod yn briodol fy mod yn ymddiswyddo fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rwyf wedi rhoi gwybod i'r gweinidog o'm bwriad i wneud hynny cyn gynted ag y bydd trefniadau priodol eraill yn eu lle.

"Mae'r Bwrdd yn wynebu llawer o heriau sylfaenol, ond rwy'n hyderus y bydd yn ymateb iddynt yn gadarnhaol er mwyn sicrhau'r gwelliannau angenrheidiol, a byddaf yn parhau i gyfrannu'n llawn yn ystod y cyfnod o newid."

'Derbyn ei ymddiswyddiad'

Wrth dderbyn ymddiswyddiad yr Athro Jones, dywedodd y Gweinidog Addysg Mark Drakeford mai ei flaenoriaeth nawr fydd sicrhau diwygiad llawn o strwythur BIPBC.

Bydd hefyd yn gofyn i SAC ac AGIC edrych ar os dylid newid y broses fel bod y llywodraeth yn medru ymyrryd yn gynt os bydd achosion fel hyn yn codi eto.

Dywedodd Mark Drakeford: "Mae'r Cadeirydd wedi fy hysbysu'n ffurfiol am ei ddymuniad i ymddiswyddo, ac rwyf wedi derbyn ei ymddiswyddiad.

"Mae'r Prif Weithredwr hefyd wedi fy hysbysu ei bod yn bwriadu gadael y sefydliad ac ar hyn o bryd mae'r bwrdd iechyd yn gweithio drwy fanylion iddi adael.

"Hoffwn dalu teyrnged i ymdrechion y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr, ond yr wyf wedi gofyn i David Sissling, Prif Weithredwr GIG Cymru, er mwyn symud ymlaen yn gyflym i benodi eu holynwyr ac yn galluogi'r bwrdd iechyd i ddechrau pennod newydd.

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar yn dweud y dylai Mr Drakeford ymyrryd nawr er mwyn "adfer hyder cleifion ar draws y rhanbarth."

"Mae'r cyfrifoldeb am y problemau a'r methiannau difrifol a nodwyd yn yr adroddiad deifiol yn gorwedd llwyr ar ysgwyddau'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd - ac roedd yn anochel bod rhywun yn gorfod mynd.

"Mae penaethiaid y gwasanaeth iechyd nawr angen bod yn onest ynglŷn â'r risgiau mae cleifion wedi wynebu ac i ba raddau roedd y marwolaethau cynamserol o C.Difficile a heintiau eraill yn ysbytai'r Gogledd Nghymru oherwydd y methiannau llywodraethu mae'r adroddiad hwn yn amlygu.

"Yn amlwg mae pwysau ariannol hefyd wedi cyfrannu at ddiogelwch cleifion yn cael ei beryglu yn ddifrifol ac wedi arwain at gleifion yn aros yn hwy am driniaeth.