Jan Morris yn cofio concwerwyr Everest

Ffynhonnell y llun, Royal Geographical Society

Disgrifiad o'r llun, Morris (ail o'r chwith), yn llongyfarch Ed Hillary yn dilyn ei lwyddiant

Drigain mlynedd ers i fynydd Everest gael ei ddringo am y tro cyntaf mae awdures o Wynedd wedi bod yn hel atgofion am y digwyddiad.

Ar 29 Mai 1953 fe wnaeth y dringwr Edmund Hillary o Seland Newydd a'r Sherpa Tenzing Norgay o Nepal gyrraedd copa'r mynydd uchaf yn y byd.

Ddyddiau'n ddiweddarach cyhoeddwyd erthygl ym mhapur newydd y Times gan y newyddiadurwr enwog James Morris, sydd bellach yn 86 oed, yn byw yng Ngwynedd ac yn cael ei hadnabod fel Jan Morris.

Ffynhonnell y llun, PA Wire

Disgrifiad o'r llun, Hillary, Hunt a Tenzing cyn cychwyn y daith i gopa Everest

Cafodd yr erthygl ei chyhoeddi ar ddydd Mawrth Mehefin 2 - y diwrnod y cafodd y Frenhines Elizabeth II ei choroni.

Bu'n rhaid i James Morris, yr unig newyddiadurwr oedd yn rhan o'r daith, ddod lawr ochr y mynydd mewn golau gwael - taith o 22,000 o droedfeddi.

Ffynhonnell y llun, Royal Geographical Society

Disgrifiad o'r llun, James Morris yn ei waith fel newyddiadurwr yn 1953

Y daith

Disgrifiodd Jan Morris sut y llwyddodd hi i sicrhau bod yr erthygl yn cyrraedd Prydain mewn pryd: "Doeddech chi ddim yn cael defnyddio radio felly roedd rhaid i mi drefnu bod rhedwyr yn cludo fy ngwaith yn ôl i Kathmandu."

"Roedd yn eithaf rhamantus i ddweud y gwir, oherwydd bod rhaid i ni ruthro lawr y mynydd gyda'r newyddion o Camp Four.

"Roedd yn rhaid i mi gyrraedd y gwaelod y noson honno er mwyn gyrru'r peth i ffwrdd.

"Beth bynnag, roedd hi'n tywyllu 'wyddoch chi, ac roeddwn i am fynd lawr ar ben fy hun ond dywedodd Mike Westmacott y byddai hynny'n wallgof ac y byddai'n dod gyda mi.

"Roedd pethau'n annifyr iawn, roedd y rhew yn dechrau toddi ac roeddwn i'n anobeithiol, yn disgyn pob dau funud.

"Hanner ffordd lawr fe ddywedais i wrth Mike, 'Ewch chi i lawr Mike, dydw i ddim yn mynd yn bellach', ac fe atebodd Mike 'peidiwch â bod yn hurt'.

"Hyd y gwyddwn i fe fyddwn i'n sicr wedi marw. Rwy'n sicr. Ac fe aethon ni lawr gyda'n gilydd drwy'r gwyll ac wrth iddi nosi, i lawr i'r gwersyll gyda'r newyddion oedd yn wybyddus i neb ond fi.

"Roedd yn rhaid i mi ei gael o i Lundain. Y cyffro, y rhamant - roedd y Frenhines yn mynd i gael ei choroni.

"Allwch chi ddychmygu'r peth? Roedd pawb yn disgwyl clywed y newyddion bod yr Ymerodraeth ar ben y byd."

Yn ôl Ms Morris roedd yr adroddiad yn dweud: "Sefyllfa eira'n ddrwg. Gwersyll blaengar wedi ei adael ddoe. Disgwyl gwellhad. Popeth yn dda!"

Beth roedd hynny'n ei olygu yn ôl Ms Morris oedd bod "Ed Hillary a Tenzing wedi cyrraedd copa Everest ac ein bod ni i gyd yn iawn".

Disgrifiad o'r llun, Bu Jan Morris yn hel atgofion ar gyfer rhaglen i Â鶹ԼÅÄ Radio 3

Roedd Morris wedi trefnu i roi gwybod i'r awdurdodau ym Mhrydain a oedd y trip wedi llwyddo drwy gyfrwng cod arbennig.

Os oedd Hillary a Tenzing yn llwyddiannus byddai'r neges yn cychwyn gyda'r geiriau 'sefyllfa eira'n ddrwg', ond pe bai wedi methu 'gwynt trafferthus' fyddai'r neges.

Roedd gan y trip gysylltiadau eraill gyda gogledd Cymru.

Defnyddiodd y grŵp westy Pen-y-Gwryd, sydd wrth droed yr Wyddfa, a Nant Gwynant fel gwersyll hyfforddi a daethant yn ôl yno flynyddoedd yn ddiweddarach er mwyn dathlu.

Ffynhonnell y llun, Press Association

Disgrifiad o'r llun, Yr anturiaethwyr yn cyrraedd yn ôl i Lundain ar Orffennaf 3, 1953