Deg milltir o giwiau ar yr M4

Ffynhonnell y llun, Traffic Wales

Disgrifiad o'r llun, Roedd hyd at 10 milltir o giwiau ar yr M4 yn dilyn y ddamwain

Mae hyd at ddeg milltir o giwiau i gyfeiriad y dwyrain ar yr M4 ger Casnewyd wedi damwain yn nhwnneli Brynglas.

Fe ddigwyddodd ychydig wedi 06:30am fore dydd Llun.

Bu'n rhaid cau un lôn ddwyreiniol am gyfnod, gan achosi oedi mawr i gyfeiriad Caerdydd.

Mae'r lôn wedi ailagor yn llwyr erbyn hyn.

Roedd adroddiadau fod 'na hyd at 90 munud o oedi i gerbydau.

Roedd y ddamwain hefyd wedi effeithio ar yr A48 i gyfeiriad y gorllewin ac roedd yna giwiau ar yr A48 Rhodfa'r Dwyrain.