Â鶹ԼÅÄ

AC 'ddim am sefyll yn 2016'

  • Cyhoeddwyd
Rhodri Glyn ThomasFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri Glyn Thomas wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 1999

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas, wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yn etholiad y Cynulliad yn 2016.

Cafodd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei ethol i'r Cynulliad cyntaf yn 1999, un o 20 gafodd eu hethol bryd hynny sydd yn dal i fod yn aelodau o'r Cynulliad presennol.

Mae'r dyfalu nawr wedi dechrau ynghylch pwy fydd yn ceisio am enwebiad Plaid Cymru i sefyll yn yr etholaeth yn 2016.

Dywedodd Golygydd Materion Cymreig y Â鶹ԼÅÄ, Vaughan Roderick, y gallai ffigyrau amlwg fel y cyn aelod seneddol Adam Price, neu'r cyn aelodau cynulliad, Nerys Evans a Helen Mary Jones fod â diddordeb.

Ond wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd Rhodri Glyn Thomas bod y fath ddyfalu yn dangos anwybodaeth ynghylch yr hyn sydd yn digwydd y tu fas i Fae Caerdydd:

"Mae fy mhenderfyniad i yn ymwneud ag adeiladu Plaid Cymru yn nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr... y'n ni wedi sefydlu strwythurau cadarn iawn i'r blaid o fewn yr etholaeth ac y'n ni mewn sefyllfa gref iawn o ran cyngor sir Caerfyrddin bellach... a'r peth pwysig yw ein bod ni yn ethol ymgeisydd fydd yn ymroi am dair blynedd i sicrhau bod parhad i'r gwaith hwnnw."

Wrth gyhoeddi ei fwriad i gyd-aelodau'r Plaid Cymru yn lleol, dywedodd Mr Thomas ei fod wedi bod yn falch iawn o gynrychioli Sir Gaerfyrddin, a diolchodd i'r etholwyr am roi eu ffydd ynddo ac ym Mhlaid Cymru.

Ychwanegodd y byddai'n "parhau i fod yn gynrychiolydd cryf dros f'etholwyr" yn ystod y tair blynedd nesaf, " ac fe fyddaf yn chwilio am gyfleoedd eraill i wasanaethu'r blaid yn y dyfodol."

Yn ystod ei gyfnod yn y Cynulliad, bu Mr Thomas yn llefarydd yr wrthblaid ar iechyd, cadeirydd Is-bwyllgor Datblygu Cefn Gwlad, dirprwy arweinydd Plaid Cymru ac yn weinidog treftadaeth yng nghyfnod Plaid Cymru mewn clymblaid gyda Llafur.

Dywedodd fod sefydlu theatr genedlaethol cyfrwng Saesneg, sicrhau dyfodol ariannol Canolfan y Mileniwm, sicrhau sefydlogrwydd ariannol i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol a nifer o fentrau eraill o fewn ei etholaeth wedi bod ymhlith uchafbwyntiau ei gyfnod yn y Cynulliad.

Bu'n rhaid iddo ymddiswyddo o'r cabinet pan aeth i mewn i dafarn yng Nghaerdydd yn 'smygu sigâr wedi i'r gwaharddiad ar ysmygu mewn lleoedd cyhoeddus ddod i rym, a chyn hynny darllenodd yr enw anghywir wrth gyhoeddi enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008.

'Brwdfrydedd'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC:

"Fel un o Aelodau Cynulliad cyntaf Cymru, mae profiad Rhodri a'i frwdfrydedd dros ei etholaeth yn Sir Gaerfyrddin yn golygu ei fod yn rym o bwys yng ngwleidyddiaeth Cymru.

"Mae wedi gwasanaethu ei etholwyr a Phlaid Cymru gydag ymroddiad ers blynyddoedd lawer. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Rhodri am ei ymdrechion cyson dros ein hymgyrch i wneud Cymru yn wlad fwy ffyniannus."