Â鶹ԼÅÄ

Bad achub newydd i Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Cerflun Dick Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerflun o Dick Evans yn edrych dros y bae ym Moelfre

Bydd diwrnod o ddathlu ym Moelfre ar Ynys Môn ddydd Llun wrth i fad achub newydd gyrraedd y pentref.

Mae'r digwyddiad yn cyd-fynd ag agor Canolfan Gwylfan Moelfre - amgueddfa fydd yn cynnwys arddangosfa o eitemau diddorol yn nodi hanes bad achub Moelfre.

Fe fydd y bad achub presennol dosbarth 'Tyne' yn mynd allan i'r môr i groesawu'r bad achub newydd dosbarth 'Tamar' i'r orsaf leol wrth iddi gyrraedd Cymru am y tro cyntaf.

Eisoes mae'r criw o wirfoddolwyr wedi bod yn Poole i ymgyfarwyddo gyda'r bad achub newydd yng ngholeg yr RNLI yno.

'Anrhydedd fawr'

Bydd Gwylfan Moelfre yn cael ei hagor yn swyddogol ddydd Llun gan achubwr hynaf yr orsaf - sydd bellach wedi ymddeol - Davey Owen, 78 oed.

Bu Mr Owen yn gweithio ochr yn ochr ag un o aelodau enwocaf bad achub Moelfre, y diweddar Dick Evans - un o nifer fach iawn o bobl a dderbyniodd fedal aur yr RNLI am wrhydri ar ddau achlysur.

Ffynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Cyrhaeddodd bad achub newydd Porthdinllaen ym mis Awst

Mae cerflun i gofio am Dick Evans yn edrych dros y bae ym Moelfre.

Dywedodd Mr Owen: "Mae'n anrhydedd fawr cael agor yr adeilad yma a fydd yn cadw hanes morol y pentref yn fyw.

"Gobeithio y daw pobl i weld yr eitemau hynod ddiddorol fydd yn cael eu harddangos yma, ac i weld y bad achub modern newydd yn cyrraedd ar ddiwrnod balch iawn i bentref Moelfre."

Buddsoddiad

Bydd y bad achub newydd yn dwyn yr enw 'Kiwi' gan mai arian o ewyllys dyn o Seland Newydd a gyfrannodd yn helaeth at y gost o'i phrynu.

Bu farw Reginald James Clark - morwr o Seland Newydd - yn 2004. Cafodd ei achub gan fad achub Moelfre yn ystod y rhyfel, ac mae ei deulu wedi gofyn i gael yr enw ar y bad achub newydd i gydnabod ei gwreiddiau.

Mae'r bad achub 'Tamar' yn rhan o fuddsoddiad o £42.5m gan yr RNLI yng Nghymru. Mae'n golygu badau achub newydd a gorsafoedd a llithrfeydd i gyd-fynd â nhw mewn pedair gorsaf.

Mae Porthdinllaen yng Ngwynedd eisoes wedi derbyn bad achub newydd, ac fe fydd rhai newydd yn dilyn yn Nhyddewi yn Sir Benfro a'r Mwmbwls yn Abertawe.