Â鶹ԼÅÄ

Llong yn cyrraedd Caergybi

  • Cyhoeddwyd
Llong Airbus - llun gan Ray McGowanFfynhonnell y llun, Ray McGowan
Disgrifiad o’r llun,

Aeth y llong yn sownd ar y tywod ar Ionawr 30

Mae llong sy'n cludo adenydd awyren airbus wedi cyrraedd porthladd Caergybi, Ynys Mon.

Roedd y Ciudad de Cadiz edi bod yn sownd ar y tywod ger porthladd Mostyn ers dros wythnos.

Llwyddodd yr awdurdodau i'w symud ddydd Sadwrn.

Cyrhaeddodd Caergybi am 7.50 am ddydd Sul.

Bydd perianwyr yn archwilio'r llong er mwyn sicrhau nad yw wedi ei difrodi.

Roedd y llong yn cludo adenydd o ffatri cwmni Airbus ym Mrychdyn i bencadlys y cwmni yn Toulouse, Ffrainc.

Ar ei ffordd i godi llwyth ar Ionawr 30, daeth y llong yn rhydd o'i hangor mewn gwyntoedd cryfion cyn mynd yn sownd ger y fynedfa i borthladd Mostyn.

Bu samwl ymgais aflwyddiannus i'w symud.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Airbus:

"Mae'r llanw uchel yn ddiweddar wedi bod yn is na'r disgwyl, felly fe wnaed y penderfyniad i ohirio'r ymgais nesaf tan ddydd Sadwrn, Chwefror 9.

"Mae'r llong mewn safle cadarn a diogel ar dwyn tywod. Does dim llygredd morol."